Re: S4C dros y Byd?
Postiwyd: Sad 20 Rhag 2008 4:13 am
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Os mae costau clirio hawliau rhyngwladol yn ormod yna efallai dylai S4C ystyried system pay per view ar gyfer gwylwyr tramor?
Wel mi fuaswn i'n fodlon talu am wylio rhai rhaglenni mae'n debyg tasa rhaid...tebyg i'r system 'pay per view ' sydd gennym ar Shaw cable rwan. Ond beth sydd yn gwneud fi'n flin am hyn ydi bod y rhan fwyaf o'r rhaglenni ar S4C ar gael i ni ar y we tan ychydig yn ôl , a mwya sydyn pfft ! mae nhw i gyd [ mwy neu lai ] wedi diflannu !
Asuka , Emma .....a fuasech yn fodlon sgwennu i S4C hefyd ogydd. i leisio'ch barn ?