Re: S4C dros y Byd?
Postiwyd: Sad 04 Ebr 2009 7:54 pm
Dyfais ar gyfer pobl sydd eisiau gwylio teli o adre tra mae nhw dramor ydy Slingbox - mae'n creu ffrwd fideo breifat o dy gysylltiad satellite a ti'n ei wylio efo meddalwedd arbennig ar dy declyn tra ti ffwrdd. Mi fysa'n gwneud y tro yn handi iawn wrth gwrs ond mae gofyn i ti gael mynediad at focs satellite ym Mhrydain, cysylltiad broadband yno, a bod pwy bynnag sy'n rhannu'r satellite efo ti yn fodlon i ti newid sianeli o ffwrdd....