Mae arwyddion o Wanwyn yn reit amlwg yma yn B.C . Er nad ydym wedi troi'r clociau ymlaen eto , mae'r nosweithiau yn ymestyn, yn enwedig ar noson braf fel heno.
Wedi gweld llawer i un mewn trowsus bach yn barod , ond wnai ddim mentro am oleiaf dau fis arall! Lot o blanhigion yn eu blodau , ac mae'r lawntydd yn barod i'w torri.
Dal yn oer iawn yn y rhan fwyaf o Canada, ond yma ar yr arfordir Orllewinol , mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd.