Tudalen 1 o 2

Dim croeso swyddogol i Gymry tramor yn yr Eisteddfod?

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 6:02 pm
gan Lôn Groes
Fe dderbyniais gopi o 'Yr Enfys' ddoe, cyfrol y Gwanwyn 2006, ac ynddo fe ddarllenais y newyddion diflas am y bwriad i ddileu y croeso swyddogol i Gymry tramor yn Eisteddfodau'r dyfodol.
Fedrwn i ddim coelio'r ffashiwn beth. Wel dyna ichi sioc, heb son am fy ngwneyd i deimlo fel Cymro ail law.
Hwyrach mai camgymeriad oedd y cyfan; ond na, fe ddarllenais yr un peth yn y Daily Post ac ar dudalen We BBC Cymru'r Byd.
Wel duwcs dyna siom a minnau'n wastad wedi ymhyfrydu yn y ffaith mod i'n perthyn i genedl gyda chariad sefydlog a pharch dilychwin tuag at ei thraddodiadau:

"Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn." :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 12:39 am
gan Mali
Er na f

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 12:55 am
gan Lôn Groes
Mali a ddywedodd:A fydd 'na groeso i'r Cymry alltud ar ffurf arall eleni tybed?


Wel, efo dipyn o lwc hwyrach y medrwn sleifio'i mewn drwy ddrws y cefn. Hynny ydi, os bydd o ar agor o gwbwl! :winc:

Y Seremoni Croeso

PostioPostiwyd: Mer 05 Ebr 2006 11:38 pm
gan Ioan ap Richard
Cafodd llythyr agored arweinydd y Cymry Tramor[ llynedd ]ei hysbysebu yn bur gyffredinol yn y wasg Gymreig rhaid dweud.Ofn na fydd ail-feddwl ynghylch y seremoni croeso traddodiadol er hynny.Gresyn!!
Ioan ap Richard

PostioPostiwyd: Iau 06 Ebr 2006 8:20 pm
gan Mali
Mae'n swnio i mi fod y penderfyniad i ddileu'r seremoni wedi cael s

Croeso'r Eisteddfod

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ebr 2006 5:35 am
gan Ioan ap Richard
Credaf fod y pwyllgorau yn trafod ffyrdd newydd o groesawu'r Cymry tramor yn yr Eisteddfod-a da o beth yw hynny.Ond ofnaf na fydd gwefr yr hen seremoni yn bresennol yn y dyfodol.
'Rwyn sicr fod cydymdeimlad dwys drwy'r byd a T Elwyn Griffiths-y gwr a sefydlodd Yr Undeb ac a fu'n arweinydd cadarn am gymaint o flynyddoedd.
Hwyl-Ioan

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 4:20 pm
gan Mali
Gweld fod nifer o lythyrau yn ymdrin â dileu'r Seremoni yn rhifyn Haf Yr Enfys. Trist meddwl fod cyn lleied a chwarter awr o drafodaeth yng Nghyngor yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dileu rhywbeth oedd yn rhan bwysig o'r Eisteddfod ers 1948 .
:(
Oes 'na Gymry eraill yn cwyno am hyn neu ddim ond y Cymry Tramor?

PostioPostiwyd: Maw 01 Awst 2006 4:02 pm
gan Mali
Newydd fod yn darllen yr erthygl yma o wefan yr Eisteddfod eleni.
Rhyfedd meddwl fod 'na gymaint a 400 ar y llwyfan ar gyfer y Seremoni yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1966 ,a ddim Seremoni o gwbwl yno yn 2006. :(

PostioPostiwyd: Mer 09 Awst 2006 12:12 am
gan Mali
Dyfyniad o golofn Gwilym Owen yn yr Eisteddfod:
# Cic owt
Un seremoni sydd wedi cael cic oddi ar lwyfan yr Ŵyl eleni ydi honno i groesawu'r Cymry tramor i'r Steddfod.

A dydi'r penderfyniad ddim wedi plesio pawb - yn wir efallai y bydd yn rhaid i'r Cyngor ail feddwl oherwydd ddydd Gwener yng nghyfarfod y Llys bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn galw am adfer y drefn a fu mewn bodolaeth er 1948.

A fydd gweinyddiaeth newydd yr Eisteddfod yn gorfod plygu i bleidlais y Llys?
Cawn weld.



Cawn weld yn wir.....

PostioPostiwyd: Sul 13 Awst 2006 9:59 pm
gan Mali
O'r BBC ynglŷn a Chyfarfod Cyngor yr Eisteddfod dydd Gwener diwethaf.

Rhywsut fedrai ddim cydfynd efo syniad Mr Alwyn Roberts am y Seremoni:
"I mi mae'r ffaith fod gymaint o Gymry wedi gorfod gadael eu gwlad yn arwydd o'n methiant a'n tlodi fel cymdeithas.

"Dydw i ddim yn gweld pwynt i'r Eisteddfod Genedlaethol ddathlu methiant a thlodi. "


Beth am fod yn fwy positif ynglŷn a chyfraniad y Cymry Tramor! :
:rolio: