gan Mali » Llun 10 Ebr 2006 7:47 pm
Rhaglen dda iawn, sydd yn fy atgoffa fi eto o edrych ar amserlen Radio 4 a Radio Cymru i weld beth sydd ymlaen. Mae'r Radio ar Alw ar y ddwy orsaf yn wych o beth.
Mi fyddai'n gweld rhywbeth emosiynol iawn mewn anthemau cenedlaethol. Ac yn wahanol i 'Oh Canada', dwi erioed wedi clywed 'Hen Wlad Fy Nhadau' yn cael ei chanu'n wael.
Heb gael y profiad o wrando ac ymuno yn Hen Wlad fy Nhadau mewn stadiwm rygbi eto .Ond os ydi'r profiad yn debyg i'r un dwi 'di deimlo wrth ei chanu mewn cyngerdd Bryn Terfel a chyngerdd gan G