A dyma'r tro cyntaf i mi sgwennu i maes-e yng Nghymru. Yn gweld ei bod hi'n reit ddistaw ar y maes ar hyn y bryd....pawb yn eu gwelyau ar fore Sul. Methu aros yn ei gwelyau yma , gan fod y patrwm cwsg wedi newid yn hollol , a ninnau yn effro ers oriau man y bore.
Tro cyntaf i ni fflio efo Zoom ac fe gawsom ein plesio yn fawr iawn . 'Roedd pob dim ar amser, ac wedi cwbwlhau y siwrna o Vancouver i Fanceinion mewn ychydig dros wyth awr a hanner.
Siomedig gweld lot o gymylau dros y maes awyr , a ninnau wedi gobeithio gweld y tapestri o gaeau bychain sydd mor nodweddiadol o gartref.
Cawn logi car heddiw i grwydro ychydig.