Cyfarchion o Gymru.

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mali » Llun 22 Mai 2006 8:57 pm

Arffinwé a ddywedodd:Glaw.... Tywydd traddodiadol Cymreig ;)


Fodd bynag, Paid a phoeni, ma'i di pistillo glaw ochrau BC ers ddoe... Lle aeth y haul crasboaeth na a losgodd fy mreichaiu dw^ad???


Dyna fo , ti 'di gwneud i mi deimlo'n well rwan . :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Iau 25 Mai 2006 7:55 pm

Wedi mentro dreifio ar yr A55 ddydd Mercher ...am ffordd ddiawledig o brysur :drwg: . Mae'r traffic wedi cynyddu dipyn , a phawb i'w gweld ar frys mawr! :ofn:
Ar ol cyrraedd Sir Fon,ddaru ni aros mewn arosfan, ac 'roedd y tywydd yn ddigon braf i ni gael gwerthfawrogi golygfa godidog o Bont Borth . Ymlaen wedyn i'r Anglesey Arms am ginio blasus.
Wedi bod yn Rhuthun heddiw.....llawer o faneri a dreigiau ar siopau a thai , a'r coch gwyn a gwyrdd yn amlwg. :D
I Gaerdydd yfory!...........
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Arffinwé » Llun 29 Mai 2006 1:55 pm

Sir Fôn :crio:

Dwi'na wrthi yn gwneud fy ffordd yn ôl hefyd. Wedi cyraedd cyn belled a Thornoto erbyn hyn, ond yn sownd yn fama am dipyn rwan. O wel, lot agosach nag oeddwn i ychydig o ddiwrnodau yn ôl.
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan Mali » Llun 29 Mai 2006 2:49 pm

Taith dda a diogel i ti yn ol i Gymru Arffinwe. Mi gei di weld Sir Fon yn fuan dwi'n siwr . :)
Wedi meddwl mynd i steddfod yr Urdd yn Rhuthun pnawn 'ma, ond wedi dechrau bwrw, felly am fynd tuag at ddiwedd yr wythnos pan fydd hi wedi brafio ychydig. Felly dal i fyny efo gweld ffrindiau a theulu yn Nyffryn Clwyd ac wedi bod am ginio yn y Brookhouse Mill yn Ninbych.
Caerdydd yn brysur iawn dros y penwythnos, ond fe gawsom siawns i weld Canolfan y Mileniwm , ac adeilad newydd y Senedd , cyn i ffans Barnsley ac Abertawe ddod i'r dref. :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Emma Reese » Sul 04 Meh 2006 1:10 am

Shwmae, Mali. Sut wyt ti? Wyt ti yng Nghymru o hyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Postiogan Mali » Sul 04 Meh 2006 3:14 pm

Emma Reese a ddywedodd:Shwmae, Mali. Sut wyt ti? Wyt ti yng Nghymru o hyd?


Helo Emma....na, da ni wedi ffarwelio â Chymru fach.Adref ers nos Wener, ac yn trio dal i fyny efo effeithiau'r jet lag :( . 22 awr o drafeilio dydd Gwener , ac yn falch o gyrraedd yn saff....fi a fy anwyd! 'Roeddwn yn fy ngwely am saith o'r gloch neithiwr , ac yn gwbwl effro am ddau o'r gloch y bore !
Yn gobeithio cael amser i roi rhai o'm lluniau ar y gliniadur heddiw ac yna ar dudalen flickr.
Sut mae pethau efo ti? :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Emma Reese » Sul 04 Meh 2006 7:10 pm

Dw i'n edrych ymlaen at weld dy luniau! Mae popeth yn iawn ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Postiogan Mali » Llun 05 Meh 2006 3:06 pm

Wedi dechrau rhoi ychydig o luniau ar fy nudalen flickr , ond paid a dal dy wynt Emma . :winc: Doedd y tywydd ddim yn rhy dda pan oeddem adref , a ddaru ni ddim crwydro llawer. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Llun 05 Meh 2006 3:33 pm

Dwi'n gobeithio i ti gael amser braf yn ol yng Nghymru Mali, er gwaetha'r tywydd! Dwi'n siwr y byddai gan bawb ddiddordeb clywed dy hanesion os oes gen ti amser eu hysgrifennu.

Dydw i heb fod allan o Gymru am fwy na rhyw 3 i 4 mis ar y tro, a hyd yn oed bryd hynny dwi'n mynd yn wirion wrth weld bro fy mebyd, felly alla'i'm dychmygu sut brofiad oedd o i ti, a chditha wedi bod mor bell am amser mor hir!
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Mali » Gwe 09 Meh 2006 10:14 pm

Mae'n ddrwg gen i am beidio ateb ynghynt ....dal yn trio dal i fyny efo pethau ar ôl bod i ffwrdd.
Ia, 'roedd 'na chwe mlynedd ers i mi fod yng Nghymru ddiwethaf. 'Roeddem wedi bwriadu crwydro dipyn o amgylch y gogledd ond rhwng y tywydd a'r ffliw/anwyd/jetlag ddaru ni ddim medru gwneud hyn. :( Ond mi gawsom dreulio lot o amser gwerthfawr efo ein teulu . :D
'Roedd Dyffryn Clwyd yr un mor brydferth ac erioed , ac mor wahanol i'r tirwedd yma. Bob dim mor wyrdd , a'r tapestri o gaeau bychain del yn llawn o ddefaid ac wyn. Braf hefyd oedd gweld Bont Borth a'r Fenai dlos.
Ni chawsom ein siomi efo bwyta allan ....wel arwahân i ogla sigarets mewn ambell le :drwg: . Ond faswn i'n dweud fod ti'n cael gwerth dy brês a bod rhai 'helpings' yn rhai sylweddol iawn yn y tafarndai.
Wedi sylwi ar lot mwy o ddreigiau ....ar geir, ar arwyddion ayb, a hyd yn oed un yn chwifio yn uchel y tu allan i Ysgol Rhewl. :D Grêt eu gweld!
Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at y dreifio , ond fel mae'n digwydd bod ni chefais drafferth o gwbwl efo'r standard , ac mi ddaeth dreifio ar y chwith yn beth eitha naturiol i mi o'r cychwyn. Ond doeddwn i ddim yn rhy hapus efo prysurdeb y ffyrdd :ofn: na'r spîd ofnadwy o uchel ar yr A55 :ofn: .Mae'r lonydd yn rhy gul o lawer i'r nifer o geir ayb sydd ar y lôn.
Caerdydd yn ddinas brysur cosmopolitan iawn yn anhebyg iawn i'n prifddinas ni yma ar yr Ynys , sef dinas Victoria. 'Roedd yr adeiladau newydd yn y Bae yn drawiadol iawn , ac mi fuaswn wrth fy modd ymweld a'r ardal eto ar ddiwrnod braf er mwyn ei werthfawrogi'n well.
Am y tro.... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai