Cyfarchion o Gymru.

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfarchion o Gymru.

Postiogan Mali » Sul 21 Mai 2006 7:21 am

A dyma'r tro cyntaf i mi sgwennu i maes-e yng Nghymru. Yn gweld ei bod hi'n reit ddistaw ar y maes ar hyn y bryd....pawb yn eu gwelyau ar fore Sul. Methu aros yn ei gwelyau yma , gan fod y patrwm cwsg wedi newid yn hollol , a ninnau yn effro ers oriau man y bore. :?
Tro cyntaf i ni fflio efo Zoom ac fe gawsom ein plesio yn fawr iawn :D . 'Roedd pob dim ar amser, ac wedi cwbwlhau y siwrna o Vancouver i Fanceinion mewn ychydig dros wyth awr a hanner.
Siomedig gweld lot o gymylau dros y maes awyr , a ninnau wedi gobeithio gweld y tapestri o gaeau bychain sydd mor nodweddiadol o gartref.
Cawn logi car heddiw i grwydro ychydig. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Blewyn » Sul 21 Mai 2006 9:13 am

Haha bydda'n barod am sioc ar dy din pan weli di'r pris !
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Mali » Sul 21 Mai 2006 2:29 pm

Car diesel da ni 'di heirio . Newydd fod allan yn rhoi gwerth £20 i mewn ynddo , a dim ond wedi llenwi hanner y tanc ! :o
Awn i ddim yn bell . :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Arffinwé » Sul 21 Mai 2006 4:25 pm

Ia, dwi'n ei gweld hi'n ddoniol bod pobl yng Nghanada yn cwyno am bris petrol yn codi yma. Mae hi dal llawer rhatach nag ydi hi acw yng Nghymru! :rolio:
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan Mali » Llun 22 Mai 2006 8:56 am

Arffinwé a ddywedodd:Ia, dwi'n ei gweld hi'n ddoniol bod pobl yng Nghanada yn cwyno am bris petrol yn codi yma. Mae hi dal llawer rhatach nag ydi hi acw yng Nghymru! :rolio:


Digon gwir!
Ar hyn o bryd da ni'n cwyno mwy am y tywydd yma ...dim byd ond glaw ers i ni gyrraedd. :( Gobeithio fod hi'n brafiach acw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Llun 22 Mai 2006 9:17 am

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y gwyliau felly, Mali? Wyt ti am fynd i rywle difyr, neu jest gweld hen ffrindiau a theulu? A fentri di draw i Sdeddfod yr Urdd wythnos nesa?
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Emma Reese » Llun 22 Mai 2006 1:41 pm

Ti yng Nghymru o'r diwedd, Mali! Gobeithio y byddi di a'th wˆr yn cael amser gwych er gwaitha'r glaw.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Postiogan Arffinwé » Llun 22 Mai 2006 3:09 pm

Glaw.... Tywydd traddodiadol Cymreig ;)

O'n i ar wyliau rhai flynyddoedd yn ôl hefo 'nhad a 'mrawd. Ymwelsom hefo rhyw hen le cloddio aur sydd erbyn hyn yn beth twristiaeth mawr. Roedd na na rhwy Americanwyr yn y grwp twrio efo ni a mi ofynnodd un Be oedd y gwahaniaeth rhwn y tywydd yn y gaeaf a'r tywydd yn yr haf yng Nghymru... Ateb y tywyswr oedd fod y glaw yn gynhesach yn yr haf ;)


Fodd bynag, Paid a phoeni, ma'i di pistillo glaw ochrau BC ers ddoe... Lle aeth y haul crasboaeth na a losgodd fy mreichaiu dw^ad???

Cofia deud helo i Gymru gen i yn de Mali ;)
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan Mali » Llun 22 Mai 2006 8:47 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y gwyliau felly, Mali? Wyt ti am fynd i rywle difyr, neu jest gweld hen ffrindiau a theulu? A fentri di draw i Sdeddfod yr Urdd wythnos nesa?


Ia, gweld 'hen' ffrindiau a theulu byddwn i rhan fwyaf o'r amser, a chrwydro Gogledd Cymru ....Sir Fon , Llyn ac Arfon pan fydd y tywydd yn gwella. Heb fod yn bell eto , gan fy mod yn dal i fod ychydig yn 'jetlagged'. Yn syrthio i gysgu yn reit hawdd ar adegau mwyaf od :( .
Braf gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu unwaith eto , a chlywed yr Iaith yn y siopau ac ar y strydoedd. :D
Yn edrych ymlaen i fynd i'r steddfod yr wythnos nesaf, hefyd taith i Gaerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Llun 22 Mai 2006 8:53 pm

Emma Reese a ddywedodd:Ti yng Nghymru o'r diwedd, Mali! Gobeithio y byddi di a'th wˆr yn cael amser gwych er gwaitha'r glaw.


Diolch Emma. :)
Brynais i siaced fleece gynnes a sweater bore 'ma .....wedi dod a'r dillad anghywir efo fi :P .
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron