Mae'n ddrwg gen i am beidio ateb ynghynt ....dal yn trio dal i fyny efo pethau ar ôl bod i ffwrdd.
Ia, 'roedd 'na chwe mlynedd ers i mi fod yng Nghymru ddiwethaf. 'Roeddem wedi bwriadu crwydro dipyn o amgylch y gogledd ond rhwng y tywydd a'r ffliw/anwyd/jetlag ddaru ni ddim medru gwneud hyn.
Ond mi gawsom dreulio lot o amser gwerthfawr efo ein teulu .
'Roedd Dyffryn Clwyd yr un mor brydferth ac erioed , ac mor wahanol i'r tirwedd yma. Bob dim mor wyrdd , a'r tapestri o gaeau bychain del yn llawn o ddefaid ac wyn. Braf hefyd oedd gweld Bont Borth a'r Fenai dlos.
Ni chawsom ein siomi efo bwyta allan ....wel arwahân i ogla sigarets mewn ambell le
. Ond faswn i'n dweud fod ti'n cael gwerth dy brês a bod rhai 'helpings' yn rhai sylweddol iawn yn y tafarndai.
Wedi sylwi ar lot mwy o ddreigiau ....ar geir, ar arwyddion ayb, a hyd yn oed un yn chwifio yn uchel y tu allan i Ysgol Rhewl.
Grêt eu gweld!
Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at y dreifio , ond fel mae'n digwydd bod ni chefais drafferth o gwbwl efo'r standard , ac mi ddaeth dreifio ar y chwith yn beth eitha naturiol i mi o'r cychwyn. Ond doeddwn i ddim yn rhy hapus efo prysurdeb y ffyrdd
na'r spîd ofnadwy o uchel ar yr A55
.Mae'r lonydd yn rhy gul o lawer i'r nifer o geir ayb sydd ar y lôn.
Caerdydd yn ddinas brysur cosmopolitan iawn yn anhebyg iawn i'n prifddinas ni yma ar yr Ynys , sef dinas Victoria. 'Roedd yr adeiladau newydd yn y Bae yn drawiadol iawn , ac mi fuaswn wrth fy modd ymweld a'r ardal eto ar ddiwrnod braf er mwyn ei werthfawrogi'n well.
Am y tro....