Ers mynd i astudio yn Lloegr dwi wedi dod i hoffi'r ddihareb yma'n fawr. Dwi'n teimlo mod i'n fwy gwladgarol pan dwi i ffwrdd o Gymru nag ydw i pan dwi adre'. Yn Durham dwi o hyd yn siarad am Gymru a'r Gymraeg ac yn gwneud ymdrech i newid ymddygiad rhai o'm ffrindiau tuag at hen stereotypes. Pan ges i'n ethol yn arlywydd ar Gym Gym y brifysgol dyma oedd prif neges fy araith - ni'n Gymry oddi cartref ac mae'n wych o beth cael son am hynny wrth bawb a phob un sydd a diddordeb. Dwi'm yn meddwl dylai neb fynd yn grac atom ni am adael Cymru a mynd at brifysgolion Seisnig gan ein bod ni ry'n mor wladgarol, os nad mwy, o gael y profiad newydd hwn. Sdim teimlad gwell na canfod pobl Cymraeg mor bell o adre' a chael clonc a chan yn eu cwmni. Sdim teimlad gwell na diddori pobl drwy son am adre', y Gymraeg a Steddfod ac ati. Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartref? Bendant, weden i!
Be chi' n feddwl?