Tudalen 1 o 1

Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Iau 13 Gor 2006 4:10 pm
gan Mali
Dipyn o siom oedd sylweddoli na fedraf gael y rhaglenni newydd sydd ar y safle yma. :(
Yn gweld fod 'na dair rhaglen newydd , sef 'Crwydro' , 'Dipyn o Stad', a Cymru o'r Awyr'.
Oes 'na rhywun arall wedi trio gwylio'r rhain ar y we yng Nghymru/tu allan i Gymru ? Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn o unrhyw 'feedback' ogydd. :)

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 11:36 am
gan liamcymro
Dwi methu gweld unrhyw rhaglen chwaith!? Rhyw neges yn dweud fod yna broblem hefo'r 'proxy' beth bynnag ydi hynna'! Dwi wedi trio ei arbed o drwy ' Save Target AS' ond tydi hynny ddim i weld yn gweithio ! Efallai fuasai e-bost i S4C yn syniad ! :winc: :drwg:

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 11:39 am
gan Llefenni
Cysylltwch â'r Wifren Gwylwyr i weld bedi be :?

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 1:03 pm
gan Kez
Wi'n cael S4C digidol ar Zattoo - http://zattoo.com/

Mae hwn yn well na safle we S4C - wi'n cal gweld pob un rhaglen yn fyw gan gynnwys Pobol y Cwm sydd ddim ar gal ar wefan S4C.

Mae'n debyg bod y sianeli sydd ar gal yn wahanol ymhob gwlad ond ifi'n cal S4C yn fyw yma yn Llundain.

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 1:28 pm
gan Johnny Fart Pants
Beth am BBCiPlayer neu 4OD?

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 4:39 pm
gan Mali
liamcymro a ddywedodd:Dwi methu gweld unrhyw rhaglen chwaith!? Rhyw neges yn dweud fod yna broblem hefo'r 'proxy' beth bynnag ydi hynna'! Dwi wedi trio ei arbed o drwy ' Save Target AS' ond tydi hynny ddim i weld yn gweithio ! Efallai fuasai e-bost i S4C yn syniad ! :winc: :drwg:


Diolch am ymateb ....'roeddwn i 'di anghofio am hwn ! :winc: :P
Mae pethau wedi gwellan arw erbyn hyn wrth gwrs, a dwi 'di gwylio sawl rhaglen dda iawn ar S4C Rhygweithiol . Yr unig 'gwyn' sydd gen i rwan ydi fy mod i wedi gwylio (a mwynhau yn fawr iawn ) y rhaglen gyntaf am David Lloyd , ond 'roedd yr ail raglen a oedd yn cynnwys cyngerdd o'r Eisteddfod ddim ar gael. :? Yr un peth wedi digwydd efo 'r rhaglen gyntaf am Hafod Eryri ...wedi gwylio'r un gyntaf ac yn dal i ddisgwyl am yr ail. :(

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 4:41 pm
gan Mali
Kez a ddywedodd:Wi'n cael S4C digidol ar Zattoo - http://zattoo.com/

Mae hwn yn well na safle we S4C - wi'n cal gweld pob un rhaglen yn fyw gan gynnwys Pobol y Cwm sydd ddim ar gal ar wefan S4C.

Mae'n debyg bod y sianeli sydd ar gal yn wahanol ymhob gwlad ond ifi'n cal S4C yn fyw yma yn Llundain.


Ydi'r safle na ar gael i'w lawrlwytho ar gyfer Windows Vista hefyd Ceri ?

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Maw 15 Gor 2008 8:04 am
gan Kez
Wi'n credu bo fe. Cer at y linc 'na i weld - os yw e'n dod lan yn Sbaeneg, jwst gwasga ar y peth espanol yn y cornel top a'i newid e i'r Saesneg. Wn i'm os yw e ar gal yng Nghanada ond maen nhw'n dod a gwledydd newydd miwn trwy'r amser, felly sticia gyda nhw am sbel i weld be ddigwyddiff.

Re: Problem gwylio S4C Band Llydan.

PostioPostiwyd: Maw 15 Gor 2008 8:20 pm
gan Mali
Diolch Ceri. Newydd gael gliniadur newydd ac yn araf ddod i arfer efo Vista, felly mi wnaf ei adio i'r ffefrynau ar hyn o bryd. :D