Gair byr i ddymuno Nadolig Llawen i bawb!
Yn dal heb orffen y siopa 'dolig yma , ac yn gobeithio y gwneith y tywydd wella i mi gael mynd allan nes ymlaen heddiw. ...ofn dreifio yn yr eira Un peth positif eleni ydi fod 'na fwy o bwyslais ar y gair Nadolig yn hytrach na gwyliau . Da hynny! A hyd yn oed y siopa mwyaf fel Wal Mart yn dewis defnyddio'r gair Nadolig eleni.
Ond , mi rydwi'n cofio defnyddio'r gair gwyliau hefyd pan oeddwn yn yr ysgol gynradd ers talwm, ond ella mai cymysgu'r ddau oeddwn yr adeg hynny.