Tudalen 1 o 1

Nadolig Llawen

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 11:37 am
gan Hazel
Nadolig Llawen i bawb o Kansas. Mwynhewch yn heddwch. Hazel

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 6:42 pm
gan Mali
Diolch i ti am dy gyfarchion Hazel . :D
Newydd fod allan yn siopa yn yr archfarchnad lleol ac 'roedd hi'n brysur iawn yno. A ninnau yn meddwl ein bod yno ddigon cynnar am 9.30am!
:lol:
Dymuniadau gorau i tithau hefyd ar Wyl y Nadolig.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 6:59 pm
gan Tegwared ap Seion
Cynnar am hanner awr wedi 9?! Roedd hi'n amhosibl mynd a'r troli lawr y Fruit&Veg yn Tesco Bangor am hanner awr wedi 6 bore 'ma!! :lol:

Nadolig Llawen i chi i gyd, a chofiwch wrando ar y gwasanaeth o fy Eglwys i, Krustysnaks a gethin_aj!! :D

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 7:13 pm
gan Hazel
Siopa'r wythnos cyn Nadolig; cer yn ôl yr wythnos ar ôl Nadolig.

A wyt ti'n gwybod beth yw'n wirioneddol drist? Mae siopau 'ma a fydd ar agor Dydd Nadolig. Y ddoler aruthrol!

PostioPostiwyd: Sul 24 Rhag 2006 1:40 am
gan Mali
Hazel a ddywedodd:
A wyt ti'n gwybod beth yw'n wirioneddol drist? Mae siopau 'ma a fydd ar agor Dydd Nadolig. Y ddoler aruthrol!


Ac yma hefyd Hazel. Mi ddechreuodd Future Shop agor ei ddrysau ar ddiwrnod 'Dolig llynedd. :(

PostioPostiwyd: Sul 24 Rhag 2006 3:18 am
gan Mali
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Cynnar am hanner awr wedi 9?! Roedd hi'n amhosibl mynd a'r troli lawr y Fruit&Veg yn Tesco Bangor am hanner awr wedi 6 bore 'ma!! :lol:

Nadolig Llawen i chi i gyd, a chofiwch wrando ar y gwasanaeth o fy Eglwys i, Krustysnaks a gethin_aj!! :D


Wel, mae siopa am 9.30 yn gynnar i mi :lol:
Diolch i ti am y linc Teg..diddorol iawn ! Dyma'r tro cynta i mi glywed am y gwasaneth arbennig yma.Dwyn i gôf gwasanaeth carolau'r ysgol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Mi fyddaf i fyny am saith o'r gloch bore fory yn digwydd bod , gan y byddaf yn mynd i'r eglwys i'r cymun wyth. Yn gobeithio medru gwrando ar ran o'r gwasanaeth beth bynnag.
Dolig Llawen i ti ...a fyddi'n treulio'r Nadolig yn Sir Fôn?

PostioPostiwyd: Maw 26 Rhag 2006 11:42 pm
gan Mali
Wedi gwrando ar ran o'r gwasanaeth cyn i mi orfod gadael am yr eglwys.
'Roedd 'na raglen da ar Radio Cymru hefyd wedi ei recordio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mi ddylai'r linc fod ar Radio ar Alw .Dyma fo:

Nos Nadolig Yw.

PostioPostiwyd: Mer 27 Rhag 2006 9:25 am
gan sian
Roedd Oedfa'r Bore dydd Sul yn dod o Drefor.
Dyma i chi linc - http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/ - Gwrando Eto - ac Oedfa'r Bore. Roedd yr "Oedfa" yn dda iawn hefyd - o Hermon, Conwil Elfed ar brynhawn y Nadolig.
Sori - dim byd i wneud â bod ar wasgar.

PostioPostiwyd: Gwe 29 Rhag 2006 9:18 pm
gan Mali
sian a ddywedodd:Sori - dim byd i wneud â bod ar wasgar.


Ond popeth i'w wneud â'r Nadolig Sian. :winc:
Diolch i ti am y linc.