Tom Parsons a ddywedodd:Oedd 'na unrhywun yn sgwrs Skype neithiwr? O'n i'n aros yno am chwarter awr ond doedd neb yn ymddangos.
Oedd Tom, fe roedd 'na saith ohonom yn sgwrsio neithiwr gan gynnwys gwr bonheddig o Laguna Beach California. Dai yw'r unig Americanwr ar y seiat ar hyn o bryd ac mae o'n aelod gwerthfawr iawn gan ei fod yn siarad Cymraeg Ceredigion a Californian .
Fe anfonais neges ar Yahoo iti neithiwr i esbonio be ddigwyddodd. Fy mai i - 'Mea culpa'.
Fe wnaf ymdrech i gysylltu a ti yn fuan i gael sgwrs un ar un ac yna cymeryd pethau o fan yna.
Rwy'n deall ei bod hi reit oer yn Minnesota neithiwr. Rhewgell y deyrnas medda nhw.