Mali a ddywedodd:Wedi gweld un edefyn ar Skype ar maes-e, ond ddim gymaint a hynny o drafodaeth amdano. Newydd ei lawrlwytho ar fy ngliniadur deir blwydd oed, sydd yn gweithio yn grêt , ond ddim yn cael llawer o lwc efo'r camera.
Ddim ond wedi gwneud un galwad ar Skype hyd yma ....yr audio yn iawn , ond y video yn symol.
Beth yw eich profiadau chi? Ac ydi i chat yn well?
Ydi mae Skype yn declyn hwylus dros ben ac yn enwedig i Gymry tramor sydd a'u bryd ar gael sgwrs bach yn Gymraeg efo'u cyfoedion.
Mae hyn yn arbennig o gyfleus mewn gwlad fawr fel Canada.
Mi rydw i yn ffodus iawn i fod yn aelod o Seiat Gymraeg yng Ngorllewin Canada. Mae 'na bedwar ohonom ac fe gawn sgwrs a ni'n gilydd ar nos Lun am rhyw awr dwedwch.
Desctop Huw Pacard sydd gen i ac mae o'n gweithio'n dda. Yr unig broblem yw nad ydym yn gweld wynebau ein gilydd yn ystod y sgwrsio. Mae hyn yn anfantais gan ei bod hi'n anodd gwybod pwy sy'n dweyd celwydd neu'n tynnu coes. Mae stumiau gwyneb wrth gwrs yn rhoi'r gêm i ffwrdd bob tro.
Mae nhw'n dweyd i mi fod Apple Mac ac I Chat yn caniatau lluniau'r sawl sy'n sgwrsio ar y sgrîn. Ond tydw i ddim wedi mwynhau'r fendith yna eto.
Oes 'na rhywun arall yn Canada neu America a fuasai'n hoffi ymuno a ni? Mae croeso ichi alw heibio