Diolch Mali, dydd Gŵyl Dewi hapus i ti a phawb! Welish i hwn ar y bîb gen ti - iawn! Wedi bod yn gwisgo fy nraig o amgylch Caergrawnt trwy'r dydd, ac mae baner Dewi Sant yn cyhwfan tu allan i fy ffenestr! Cinio Cymdeithas y Mabinogi (Cymry Caergrawnt) heno 'ma, a chropian rhyng-dafarnol nos 'fory. Mi ddylai fod yn benw'sos a hanner!
Diolch Mali, a r'un peth i bawb arall, 'doedd gen i ddim Draig ond mi oeddwn yn gwisgo Cenhinen Pedr ar fy nghrys yn y gwaith drw'r dydd ddoe, (mae hi bellach yr Ail o Fawrth yma erbyn hyn).
Bu raid imi egluro i ambell un be oedd yr achlysur achos mae'r Genhinen Bedr yn symbol o Ddiwrnod Cancr yma.