Cyfarchion Dydd Gwyl Dewi.

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfarchion Dydd Gwyl Dewi.

Postiogan Mali » Iau 01 Maw 2007 4:18 pm

Dydd Gwyl Dewi Sant Hapus i bawb. :)
Oes gennych chi Ddraig i'w dangos? Mae'r un yma wedi ei baentio ar ffenestr un o'n siopau lleol.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 01 Maw 2007 5:28 pm

Diolch Mali, dydd Gŵyl Dewi hapus i ti a phawb! Welish i hwn ar y bîb gen ti - 8) iawn! Wedi bod yn gwisgo fy nraig o amgylch Caergrawnt trwy'r dydd, ac mae baner Dewi Sant yn cyhwfan tu allan i fy ffenestr! Cinio Cymdeithas y Mabinogi (Cymry Caergrawnt) heno 'ma, a chropian rhyng-dafarnol nos 'fory. Mi ddylai fod yn benw'sos a hanner! :D
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan KJ » Iau 01 Maw 2007 9:52 pm

Diolch Mali, a r'un peth i bawb arall, 'doedd gen i ddim Draig ond mi oeddwn yn gwisgo Cenhinen Pedr ar fy nghrys yn y gwaith drw'r dydd ddoe, (mae hi bellach yr Ail o Fawrth yma erbyn hyn).
Bu raid imi egluro i ambell un be oedd yr achlysur achos mae'r Genhinen Bedr yn symbol o Ddiwrnod Cancr yma.
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron