Tudalen 1 o 2

Wales Alaska

PostioPostiwyd: Sad 10 Maw 2007 7:02 pm
gan Hazel
Ydy unrhwyun yma sy'n byw yn Alaska? Oes lle yn Alaska o'r enw "Wales Beach"?

Re: Alaska

PostioPostiwyd: Sul 11 Maw 2007 8:45 pm
gan Lôn Groes
Hazel a ddywedodd:Ydy unrhwyun yma sy'n byw yn Alaska? Oes lle yn Alaska sydd yn cael yr enw "Wales Beach"?


Wedi bod yn Alaska nifer o weithiau ond nid wedi mentro mor bell i'r gogledd a Wales.
Dyma dipyn bach o fanylion am Wales ei hun. Na, nid yw'r brodorion yn siarad Cymraeg:

http://www.rurdev.usda.gov/rhs/cf/succe ... les_AK.htm

:)

PostioPostiwyd: Sul 11 Maw 2007 9:21 pm
gan Hazel
Diolch yn fawr. Na, mi wnes i ddim yn meddwl bod y brodorion yn siarad Cymraeg. :) Dim ond eisiau os ydy "Wales Beach" yn Alaska.

PostioPostiwyd: Llun 12 Maw 2007 4:30 pm
gan Mali
Cwestiwn difyr Hazel.
Mae Michael Palin yn sôn am Wales a Wales Beach yn ei lyfr 'Full Circle'. Mae'n swnio'n le anghysbell iawn !
Gweler Nome to Wales Day 244. Gyda llaw, mi fedri di ddarllen yr holl lyfr ar y safle yma. Hefyd , mae map ganddo yn dangos lleoliad [ location] Wales Alaska.
http://www.palinstravels.co.uk/photos/f ... ap_019.gif
'Rwyt wedi codi awydd arnai i ddarllen y llyfr eto rwan.... :winc:

PostioPostiwyd: Llun 12 Maw 2007 4:52 pm
gan Hazel
Diolch i ti. Mi fyddaf yn edrych ar y safle wefan. Gofynnodd rhywun i os oes "Wales Beach" yn Alaska. Nid wnes i wybod. Efallai mae hi wedi darllen y llyfr.

PostioPostiwyd: Llun 12 Maw 2007 10:03 pm
gan Mali
Hazel a ddywedodd: Efallai mae hi wedi darllen y llyfr.


Digon posib ei bod hi wedi darllen llyfr Michael Palin , neu wedi gweld ei gyfres teledu. Dyma'r unig adeg i mi glywed am Wales a Wales Beach Alaska beth bynnag.
Mi fasa'n ddiddorol medru ffeindio allan pwy roddodd yr enw arno a phryd. :syniad:

Re:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Maw 2008 1:02 am
gan Gladus Goesgoch
Mali a ddywedodd:Mi fasa'n ddiddorol medru ffeindio allan pwy roddodd yr enw arno a phryd. :syniad:


Ar adegau fel hyn mae rhywun yn gweld colled ar ôl Bedwyr Lewis Jones...

Re: Wales Alaska

PostioPostiwyd: Gwe 14 Maw 2008 3:36 pm
gan eusebio
Mi fuo Dei Tomos yno flynyddoedd ar flynyddoedd yn ôl ar raglen ar S4C

Re: Wales Alaska

PostioPostiwyd: Gwe 14 Maw 2008 3:46 pm
gan Chickenfoot
Mae na Wales ger Sheffield, a North Wales ym Mhensylvania.

Re: Wales Alaska

PostioPostiwyd: Gwe 14 Maw 2008 4:14 pm
gan Hazel
Beth am hyn? http://www.walrusmagazine.com/articles/ ... mic-flu/2/

Dywedodd yr enw o Captain James Cook. Erthyglau da yna.