Diddorol iawn, dwi'n darllen yr hanes tra'n eistedd yn fy ngwaith mewn tawelwch achos mae'n tresho bwrw a ddaw neb llawar ym heddiw. Mi fuos yn gwrando ar CD Bryn Fon ar y ffordd yma bora ma, Dawnsio ar y Dibyn, CD digon trist ac yn codi dipyn o hiraeth a deud y gwir. Eniwe, diolch am ffendio'r wefan ma
Croeso Hazel a KJ. Heb edrych ar y safle i gyd fy hun eto , ond wedi ei gadw yn fy ffefrynau.
Gobeithio na wnaeth dy baned fynd yn rhy oer Hazel.
A gobeithio bod y tywydd yn well acw heddiw KJ!