Capel Canada yn dathlu 100 mlynedd.

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Capel Canada yn dathlu 100 mlynedd.

Postiogan Mali » Maw 10 Ebr 2007 11:00 pm

Diolch i'r BBC am hanes yr unig gapel sydd yn cynnal gwasanaethau Cymraeg yng Ngogledd America, sef
Capel Dewi Sant Toronto. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Emma Reese » Mer 11 Ebr 2007 12:12 am

Mali, nes i wrando ar y rhaglen hon bore ma. Mae'r holl bobl gan gynnwys y gyflwynyddes, y gweinidog ac hyd yn oed yr hen bobl yn siarad yn eglur ac yn araf iawn. Ro'n i'n deall bron yn bopeth. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Postiogan Arffinwé » Mer 11 Ebr 2007 2:09 pm

Glywais am hwna r y ffordd i'r gwaith heddiw.

Dod a lot o atgofion doniol, yn ol. Teulu Mam wedi ffraeo efo'r capel flynyddoedd yn ol. A maen nwh dal wneud sbort am ben rhyw ddyna arbennig yno sy gorffod bod in chraj o bob dim.

Er gwaethad hyn da'r beth bod o dal i fynd ac hefo gwsanethau Cymraeg.

Ddylswn i fydn draw rhywbryd pan dwi yn y cyffunia nesaf. Gawn ni wedl ble fydda i yr ha' 'ma.
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan Mali » Mer 11 Ebr 2007 6:33 pm

Emma Reese a ddywedodd:Mali, nes i wrando ar y rhaglen hon bore ma. Mae'r holl bobl gan gynnwys y gyflwynyddes, y gweinidog ac hyd yn oed yr hen bobl yn siarad yn eglur ac yn araf iawn. Ro'n i'n deall bron yn bopeth. :D


Ddim yn gwybod fod 'na raglen am y Capel yma ....ai ar Radio ar Alw oedd o Emma?
Newydd gael hyd iddo yma ar Radio ar Alw. Siawns y bydd ar gael tan yr wythnos nesaf beth bynnag. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Mer 11 Ebr 2007 6:41 pm

Arffinwé a ddywedodd:Glywais am hwna r y ffordd i'r gwaith heddiw.

Dod a lot o atgofion doniol, yn ol. Teulu Mam wedi ffraeo efo'r capel flynyddoedd yn ol. A maen nwh dal wneud sbort am ben rhyw ddyna arbennig yno sy gorffod bod in chraj o bob dim.

Er gwaethad hyn da'r beth bod o dal i fynd ac hefo gwsanethau Cymraeg.

Ddylswn i fydn draw rhywbryd pan dwi yn y cyffunia nesaf. Gawn ni wedl ble fydda i yr ha' 'ma.


Ond mae'n rhaid i rywun fod 'in charge' yn does :winc: Dipyn o job i neb arall gymeryd drosodd ar ôl y fath flynyddoedd mae'n debyg. Ydi , mae hi'n dda o beth fod y gwasanaethau Cymraeg yn dal i gael eu cynnal yno ...dipyn o gamp. Mi es i ychydig o wasanaethau Cymraeg yn Llundain pan 'roeddwn i'n blentyn ...i Gapel Charring Cross. Dwi'n meddwl ei fod yn glwb nôs erbyn hyn. :(
Ymha ran o'r byd rwyt ti rwan Arffinwe?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Arffinwé » Gwe 13 Ebr 2007 12:24 pm

Mali a ddywedodd:Ymha ran o'r byd rwyt ti rwan Arffinwe?


Wel, ers mis Hydref dwi yng Nghaerdydd yn gweithio fel is-deitlydd i S4/C - Dw i'n cael fy nhalu i wylio teledu "gwych" S4/C drwy'r dydd. A dwi'n dechrau cael blas ar Pobol y Cwm *Cywilydd!* :?

Yn ôl i'r Gogs flwyddyn nesa dw i'n meddwl. Tydw i'n deithiwr bach prysur?

'Dda i'n dod yn ol allan i ochra Ontario dwi'n meddwl am rhyw fis dros yr ha. Methu aros i ffwrdd o Ganada am rhy hir!

(Dwi dal yn cael bod yn un o'r "Cymry Ar Wasgar" er mod i nol yn Hen Wlad Fy Nhadau? 'Ta oes rhiad i fi rhoi fy ngherdyn aelodaeth a goriad i'r lolfa yn ôl? :rolio: )
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan Mali » Gwe 13 Ebr 2007 5:14 pm

Arffinwé a ddywedodd:
(Dwi dal yn cael bod yn un o'r "Cymry Ar Wasgar" er mod i nol yn Hen Wlad Fy Nhadau? 'Ta oes rhiad i fi rhoi fy ngherdyn aelodaeth a goriad i'r lolfa yn ôl? :rolio: )


Wel, unwaith i ti ddechrau crwydro , crwydro fyddi di , felly dwi'n estyn 'lifetime membership' arbennig i ti i'r Cymry Ar Wasgar!
Da clywed dy fod yn mwynhau dy waith yng Nghaerdydd . :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron