Blogwyr Cymraeg Tramor/Blogwyr Yn Teithio Tramor
Postiwyd: Mer 09 Mai 2007 4:36 pm
Oes 'na restr o flogwyr Cymraeg tramor, neu rai sydd yn teithio tramor ar gael tybed ? Hoffwn i wybod os oes.
Diolch...
Diolch...
Heb y barnu na'r cystadlu
https://maes-e.com/
Mali a ddywedodd:Oes 'na restr o flogwyr Cymraeg tramor ar gael tybed ? Hoffwn i wybod os oes.
Diolch...
nicdafis a ddywedodd:Na, mae'r blog 'na yn rybish.
Rhys Wynne yw'r boi - fe sy'n ddarllen bob blog Cymraeg yn y byd. Gan fod rhithfro.com ar gau ar hyn o bryd, blog Rhys yw'r lle i fynd am restr cynhwysfawr o flogiau Cymraeg.
Sut yn y byd fyddet ti'n sorto nhw wedyn i flogiau Cymru a thramor, wn i ddim.
Byddai Rhys yn gwybod.
Gowpi a ddywedodd:Ydy teithio yn cyfri? Mae Mererid Wigley a Lois Gibbon yn teithio yn Seland Newydd ar y foment ac yn cadw blog o'u taith. Wy'n meddwl eu bod ar fin dychwelyd cyn bo' hir...