Cymry tramor gystadlu am wobrau

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Ray Diota » Iau 17 Ebr 2008 11:36 am

KJ a ddywedodd:Jyst isho gofyn oes na rywun o'r maes wedi clywed mwy am hyn?
Diolch


alli di dal cystadlu wy'n credu, ges i'r e-bost 'ma ddoe...


DYDDIADAU NEWYDD / NEW DATES

Helo,

Ymddiheuriadau os ydych eisoes wedi derbyn y neges hon, ond mae ein dyddiadau ffilmio wedi cael eu symud i ddechrau mis Mehefin, felly roeddwn yn gobeithio byddai dim ots gyda chi ei hanfon eto.

Rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu cwis teithio ar gyfer S4C. Bydd y cwestiynnau yn gwestiynnau ‘gwybodaeth cyffredinol’ a dewis o dri ateb. Y wobr ar ddiwedd bob rhaglen yw gwyliau tramor fythgofiadwy a bydd hefyd gwobrau ariannol hael. Rydym felly yn chwilio am gystadleuwyr i gymryd rhan yn y cwis, ac am holi os byddai unrhywun yn eich sefydliad chi â diddordeb mewn cystadlu. A fyddai modd gyrru’r e-bost hwn i’ch cyd-weithwyr neu ei rhoi ar eich system rhyngrwyd fewnol?

Os oes diddordeb gennych, cysylltwch cyn gynted â phosib ar 029 2055 0550 neu aled@boomerang.co.uk. Y cyntaf i’r felin geiff falu!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Sad 19 Ebr 2008 12:03 am

Diolch Ray, o ni jyst yn bysnesu i weld os oedd rhywun arall o'r maes am fod ar y sioe. Ma na rywun yn dod yma ddechra mis Mehefin. Edrych ymlaen i weld sut ma nhw'n gyrru stwff o fama i Gymru.
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Sad 19 Ebr 2008 12:09 am

Fel KJ mae criw ffilmio fod dod draw yn mis Mehefin!!!Fe gawn ni weld!!!Bydd yn 40c + yn Arizona adeg hynny felly fydda ni ddim mynd allan i recordio yr cwis!!!
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Iau 01 Mai 2008 12:05 pm

Rwan da ni'n gwybod pwy di'r ex pats i gyd tydan Carwyn!!!
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Llun 09 Meh 2008 11:17 am

Haia bawb, sgen rywun arall rwbath i ddeud am hyn?
Ges i griw ffilmio ymas Noson o blaen
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Mali » Llun 09 Meh 2008 11:27 pm

KJ a ddywedodd:Haia bawb, sgen rywun arall rwbath i ddeud am hyn?
Ges i griw ffilmio ymas Noson o blaen


Wel, ti am ddeutha ni sut aeth pethau ? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Llun 09 Meh 2008 11:40 pm

Na tydi KJ o Awstralia cael dweud dim !Top secret waeth na KGB a CIA efo gilydd!!!!



Rhaid disgwyl tan fydd y gyfres allan yn tymor y Hydref!!

Allwn dweud dipyn am fy mhrofiad i!!!!

Wnaeth y cwmni teledu lleol yn Arizona codi ei pris bron tair gwaith yn fwy a dwedwyd yn wreiddiol a felly allan o cyllid y cwmni teledu yn Nghymru!!! Diolch yn fawr blydi Cowbois yr anialwch!!!
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Mer 11 Meh 2008 8:34 am

Cwbwl fedra i ddeud ydi mod i wedi dal anwyd yn sefyll yn y glaw yn bysnesu i gael gweld sut oedd y stwff lloeren yn gweithio a hefyd mod i wedi nabod boi arall o Port yn cymryd rhan yn y stiwdio!!
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Mali » Mer 11 Meh 2008 7:27 pm

Profiada go wahanol fanna Carwyn a KJ. Gobeithio fod pob dim wedi mynd yn dda i'r ddau ohonoch yn y cwis beth bynnag, ac y bydd pob dim yn cael ei ddatgelu ar y we mis Hydref !
Tybed faint o Gymry tramor sydd wedi cymeryd rhan ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Mer 11 Meh 2008 7:41 pm

I mi cofio roedd un o Rwsia, Ffrainc a Ariannin dim cofio lle arall!! Nhw gyd a'r facebook hefyd!!!



Dwedodd Dewi Sant/Saint David said
"Do the little things"
"Gwnewch y pethau bychain"
Carwyn Lloyd Edwards
1109 E Del Rio Street
Gilbert
Arizona
85295
Tel: 480 560 1577 / 480 963 1673 / Fax 480 963 1673
carwynedwards993@hotmail.com
http://www.welshleagueofarizona.org
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

NôlNesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai