KJ a ddywedodd:Jyst isho gofyn oes na rywun o'r maes wedi clywed mwy am hyn?
Diolch
alli di dal cystadlu wy'n credu, ges i'r e-bost 'ma ddoe...
DYDDIADAU NEWYDD / NEW DATES
Helo,
Ymddiheuriadau os ydych eisoes wedi derbyn y neges hon, ond mae ein dyddiadau ffilmio wedi cael eu symud i ddechrau mis Mehefin, felly roeddwn yn gobeithio byddai dim ots gyda chi ei hanfon eto.
Rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu cwis teithio ar gyfer S4C. Bydd y cwestiynnau yn gwestiynnau ‘gwybodaeth cyffredinol’ a dewis o dri ateb. Y wobr ar ddiwedd bob rhaglen yw gwyliau tramor fythgofiadwy a bydd hefyd gwobrau ariannol hael. Rydym felly yn chwilio am gystadleuwyr i gymryd rhan yn y cwis, ac am holi os byddai unrhywun yn eich sefydliad chi â diddordeb mewn cystadlu. A fyddai modd gyrru’r e-bost hwn i’ch cyd-weithwyr neu ei rhoi ar eich system rhyngrwyd fewnol?
Os oes diddordeb gennych, cysylltwch cyn gynted â phosib ar 029 2055 0550 neu aled@boomerang.co.uk. Y cyntaf i’r felin geiff falu!