Cymry tramor gystadlu am wobrau

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Maw 18 Rhag 2007 10:11 pm

Pasiwch ymlaen i unrhyw un a fydda diddordeb!!






Y’ch chi’n berson cwis?
Oes gennych awydd teithio?
Hoffech chi drip tramor lle profwch wyliau bythgofiadwy?

Os felly, mae cwis teithio newydd S4C yn berffaith ar eich cyfer. Am gyfle i gystadlu am wobrau ariannol a'r posibilrwydd o wyliau arbennig tramor cysylltwch a…

caryl@boomerang.co.uk 029 20 550 550 / 07816 786710


Neges i Gymry oddi cartre’.

Gwlad y gan a bellach gwlad y cwis… Bydd cyfres newydd S4C yn rhoi cyfle i chi’r Cymry tramor gystadlu am wobrau ariannol a’r posibilrwydd o gael eich hedfan yn ol i Gymru am wyliau arbennig.
Os y’ch chi’n berson cwis a diddordeb mewn teithio yna peidiwch hiraethu…cysylltwch a …

caryl@boomerang.co.uk 029 20 550 550 / 07816 786710

Rhaid bod dros 18oed.

Am fanylion pellach gyrrwch ebost neu ffoniwch unrhyw adeg.

Cofion gorau

Caryl

Caryl Sian James
Teledu Boomerang
218 Heol Penarth
Caerdydd
CF5 8NN
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Postiogan Mali » Sad 05 Ion 2008 5:38 pm

Diolch am yr hysbys Carwyn....fasa'n ddiddorol gwybod mwy amdano , a sut mae rhaglen deledu yn mynd i weithio efo'r Cymry tramor.
Rhywun a diddordeb? :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Sul 06 Ion 2008 1:18 am

Jyst ysgrifenwch i Caryl am mwy o manylion!!
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Postiogan KJ » Sul 06 Ion 2008 3:14 am

Hi Mali, Carwyn, mi sgwenas i mewn just chydig ar ol gweld yr hysbyseb gan Carwyn. Heb glywed dim yn ol hyd yma.
Mi fasa'n ddiddorol gwybod sut mae nhw'n meddwl gweithio'r sioe bysa?
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Postiogan KJ » Sul 06 Ion 2008 3:16 am

Sgwn i di hwn wedi hysbysebu ar y fforwm arall?
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Postiogan Mali » Sul 06 Ion 2008 3:20 am

KJ a ddywedodd:Hi Mali, Carwyn, mi sgwenas i mewn just chydig ar ol gweld yr hysbyseb gan Carwyn. Heb glywed dim yn ol hyd yma.
Mi fasa'n ddiddorol gwybod sut mae nhw'n meddwl gweithio'r sioe bysa?



E bost arall ar y ffordd i Caryl gen i ! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Sul 06 Ion 2008 9:05 pm

Fyddwn gadael neges a'r ei ffon! Pan derbyniais y neges roedd hi yn barod cymeryd gwyliau nadolig!!!
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Postiogan Mali » Mer 09 Ion 2008 5:02 pm

Wedi cael ateb gan Caryl , a dyma gopi o'i llythyr:

'
Da ni wrthi yn datblygu cwis teithio newydd i S4C ac yn chwilio am Gymry tramor i gymryd rhan. Rwyf wedi amgau peth wybodaeth ar eich cyfer isod. Cwis deithio yw'r gyfres lle fydd 'na rhyw 15 o bobl yn cystadlu yn ein stiwdio yng Nghaerdydd ac un ex pat/neu rywun sydd bellach wedi ymgartrefu tramor yn cystadlu drwy linc lloeren. Amcan y cwis fydd i'r cystadleuwyr ateb cyfres o gwestiynau yn ymwneud a theithio (cwestiynau sylfaenol e.e. beth yw prif ddinas... ayb. Ddim yn anhebyg i gwis tafarn). Os mai'r cymro tramor sy'n buddugol 'da chi'n ennill gwyliau i ddod yn ol i Gymru rhyw adeg, ond os mai'r cystadleuydd stiwdio sy'n cipio yna maent yn ennill gwyliau bythgofiadwy i leoliad o'i dewis.

Y gobaith yw i gychwyn ffilmio mis Mawrth/Ebrill 2008.

Croeso i chi gysylltu unrhyw bryd os 'da chi angen gwybodaeth pellach.

Cofion gorau
Caryl


Sgin rhywun ddiddordeb? Mae'r wobr yn un da... 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Maw 05 Chw 2008 11:50 pm

Dwi wedi derbyn ymateb hefyd a di llenwi'r ffurflen a'i yrru nol. Sgwn i faint fydd yn trio. Dwi di deud wrth fy ffrindiau yma amdan y cwis ond dwn im ydi nhw gyrru e-bost eto.
Hwyl i chi
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Iau 17 Ebr 2008 11:29 am

Jyst isho gofyn oes na rywun o'r maes wedi clywed mwy am hyn?
Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Nesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron