Cymry tramor gystadlu am wobrau

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Iau 12 Meh 2008 10:06 am

Dwi'n meddwl mai saith oedd yn cymryd rhan odramor, 2 yma yn Oz. un yn Hong Kong, Rwsia, Ffrainc, NZ a'r Ariannin dwi meddwl. Dwi'n gobeithio neith S4C ei ddangos ar y we de. Ond eto dwn im , Mi fydd reit od gweld fy hun ar y teli yn gwneud ffwl o fy hun.
Hen dro de Carwyn fod y cwmni na wedi codi eu prisiau gymaint. Gobeithio fydd na fwy i chdi gael y cyfla. rhaid i mi ddeud oedd o'n ffantastic o brofiad.
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Mali » Iau 12 Meh 2008 5:48 pm

KJ a ddywedodd:Dwi'n gobeithio neith S4C ei ddangos ar y we de. Ond eto dwn im , Mi fydd reit od gweld fy hun ar y teli yn gwneud ffwl o fy hun.


Ond mi fydd hi'n dda rhoi gwyneb i un arall o deulu maes-e ! :winc:
Dyfaru rwan na wnês i roi'n enw mlaen ...mi fasa siawns am gael taith am ddim i Gymru wedi bod yn neis iawn , yn enwedig gan fod prisiau ffêrs adref wedi cynyddu gymaint yn ddiweddar....
Gyda llaw, be fydd enw'r rhaglen ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Iau 12 Meh 2008 10:49 pm

Dim ond un ydi enw'r sioe a bydd ar S4C ar nos sadwrn. O leia fydd na ddim llawer o fynychwyr Maes-e adra ar nos sadwrn nafydd?
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Mali » Sul 24 Awst 2008 6:16 pm

Yn gweld fod y rhaglen 0 ond 1 wedi cychwyn ar S4C. Dyma linc i'r rhaglen gyntaf.
Alan o Aspen Colorado fydd y cyntaf !
Newydd gael cip sydyn ar y rhaglen , ac am ei wylio yn ei gyfanrwydd nes ymlaen. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Mali » Maw 14 Hyd 2008 3:55 pm

Gan na fedrai weld y rhaglenni ar y we [ ar gael yn y DU yn unig] , sut ddaru pethau weithio allan i Carwyn a KJ tybed ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan CarwynLloyd » Maw 14 Hyd 2008 11:01 pm

A ydi rhaglen efo KJ arno wedi bod eto!??!?!Os ddim ni ddim fod trafod beth digwyddodd. Ond dwi credu fydd o mynd nol i Gymru weddol fuan. Wnes i ddim cymeryd rhan oherwydd fod cowbois lloeren Arizona providers wedi codi y pris o beth dwedodd nhw yn wreiddiol i'r cwmni teledu!!! Typical sharcs busnes Arizona lladron ydi rhan fwya ohonynt!!!
CarwynLloyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Maw 15 Mai 2007 3:20 am
Lleoliad: Arizona

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Sad 25 Hyd 2008 8:58 am

Hi Carwyn. Mi nes i ffwl o fy hun neithier. ond gan mod i ar fy ffordd i faes awyr Brisbane i bigo rhywun fyny methis i weld o. Ma gen i go da iawn o beth ddigwyddodd!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Sad 06 Rhag 2008 12:31 am

Meddwl baswn i'n deud bod y wraig a finna yn eistedd yn lolfa Qantas ym maes awyr Bribane ar ein ffordd i Gymru. Braf deud fod y cwrw yn rhad ac am ddim yma.
Bosib wela ni rai ono chi o gwmpas Port dros y mis nesa ma.
Nadolig Llawen i bawb !
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan Mali » Sad 06 Rhag 2008 12:59 am

KJ a ddywedodd:Meddwl baswn i'n deud bod y wraig a finna yn eistedd yn lolfa Qantas ym maes awyr Bribane ar ein ffordd i Gymru. Braf deud fod y cwrw yn rhad ac am ddim yma.
Bosib wela ni rai ono chi o gwmpas Port dros y mis nesa ma.
Nadolig Llawen i bawb !


Hei KJ ...ydi hyn yn golygu dy fod ti wedi cael llwyddiant yn y gystadleuaeth ? Da iawn ti ! :D
'Roeddwn i adref yng Ngogledd Cymru y Nadolig diwethaf ....aros efo fy chwaer yn Ninbych. Pob hwyl i ti a'r teulu ...mwynhewch pob munud !
Siwrna saff adref...... a iechyd da :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cymry tramor gystadlu am wobrau

Postiogan KJ » Sul 21 Rhag 2008 9:48 am

Haia Mali, diolch am y llongyfarchs. Mi fues i ddigon ffodus i enill y sioe o ni arno fo. Rhyfadd iawn de, mi oedd brawd i'r ferch sy'n byw drws nesa i fy rhieni ar yr un sioe!! Dwi yn ista yn stafell fyw mam a dad ar y funud yn chwsu chwartia, mae'r gwresogydd nwy ymlaen yma a mae nhw'n ofn i ni fod yn oer. Mae'r wraig a finna wedi cael annwyd yn barod, dwi siwr mai o achos y gwres tu fewn a'r oerni tu allan. Meddwl mynd draw i Glwb Chwaraeon Madog heno i wrando ar Bryn Fon ond debyg mai fi fydd yr hyna yno.......blaw am Bryn ei hyn de..

Neis bod nol yma. Nadolig Llawen i chi yn fancw.

Mwy yn y blog nes ymlaen wrach.....
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

NôlNesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron