gan Lôn Groes » Maw 08 Ion 2008 3:20 pm
A pham lai? Mae rhywun yn cael syrffed ar fyw fel twrch daear a byw yn y llofft gefn fel petai.
Cymry yda ni ac nid Cymry ail law. Ar y maes cyffredinol y dylsem ni fod efo'r gweddill o'r hepil ac yng ngolau'r dydd.
Mae'r mwyafrif ohonom yn dal i sgwennu a siarad Cymraeg er ein bod yn byw ymhell o gartref ers blynyddoedd. Ac mae hyn yn rhyfeddol a dweyd y gwir a chysidro cyn lleied o Gymraeg a glywir ar strydoedd Caerdydd a Bangor y dyddia yma.
Syniad da Mali ac mae hi'n hen bryd hefyd

'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'