Tudalen 1 o 1

'Cymry ar Wasgar ' ar y dudalen Hafan? Dywedwch eich barn...

PostioPostiwyd: Llun 07 Ion 2008 7:58 pm
gan Mali
Mae siawns i weld cylch y 'Cymry ar Wasgar' ar dudalen Hafan maes-e, yn hytrach na chylch y tu ôl i'r llenni. Hynny ydi os oes na gefnogaeth .
Bydd y cylch yn agored i unrhywun , a bydd yn rhaid newid y disgrifiad , ac hefyd efallai teitl y cylch/fforwm.
Beth feddyliech? :)

PostioPostiwyd: Llun 07 Ion 2008 9:36 pm
gan KJ
Fedra i ddim gweld pam na ddylai fod ar y tudalen cartre, mwy o stwff i'r Maeswyr erill i ddarllen sw ni'n feddwl.

PostioPostiwyd: Maw 08 Ion 2008 3:20 pm
gan Lôn Groes
A pham lai? Mae rhywun yn cael syrffed ar fyw fel twrch daear a byw yn y llofft gefn fel petai.
Cymry yda ni ac nid Cymry ail law. Ar y maes cyffredinol y dylsem ni fod efo'r gweddill o'r hepil ac yng ngolau'r dydd.
Mae'r mwyafrif ohonom yn dal i sgwennu a siarad Cymraeg er ein bod yn byw ymhell o gartref ers blynyddoedd. Ac mae hyn yn rhyfeddol a dweyd y gwir a chysidro cyn lleied o Gymraeg a glywir ar strydoedd Caerdydd a Bangor y dyddia yma.
Syniad da Mali ac mae hi'n hen bryd hefyd :)

PostioPostiwyd: Maw 08 Ion 2008 7:30 pm
gan Emma Reese
Rhaid i mi gyfadde mod i wedi esgeuluso Cymry ar Wasgar yn ddiweddar. Mi na i well o hyn ymlaen!

Fel pawb wedi dweud, mi geith y lle yma fwy sylw, os eith o ar dudalen hafan, dw i'n meddwl.

PostioPostiwyd: Maw 08 Ion 2008 9:58 pm
gan Macsen
Braidd yn eironig mod i'n ymwthio mewn i'r drfodaeth gan nad ydw i ar wasgar mwyach (mi on i pan wnes i ymuno!). Y broblem gen i gyda gwneud y cylch yn weladwy ydi y byddai'n llawn Cymru sydd ddim ar wagar wedyn, sy'n difetha'r pwynt braidd. :)

PostioPostiwyd: Mer 09 Ion 2008 10:15 am
gan SerenSiwenna
Dwi'n meddwl fysain syniad da ei wneud yn weladwy - siawns i Cymru ddim ar wasgar i ddarllen ein trafodeuthau a deall fwy amdanno'n ni :D

Re: 'Cymry ar Wasgar ' ar y dudalen Hafan? Dywedwch eich barn...

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2008 8:38 pm
gan Mali
Diolch i bawb am ymateb, a'r rhan fwyaf ohonoch yn ffafriol ! Dwi'n dal i obeithio y bydd 'na le i gylch 'Cymry ar Wasgar' / 'Cymry Tramor' / 'O Bedwar Ban' ...neu beth bynnag y basa fo'n cael ei alw, ar y dudalen Hafan.
Drosodd i ti Hedd...oni bai fod 'na fwy o sylwadau ar y ffordd. :winc:

Re: 'Cymry ar Wasgar ' ar y dudalen Hafan? Dywedwch eich barn...

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 3:53 pm
gan Hedd Gwynfor
Wel dyma chi felly. Cymry ar wasgar ar y brif dudalen yn hytrach na bod yn gylch yn unig! :D