Diolch am alw heibio Dai

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diolch am alw heibio Dai

Postiogan Lôn Groes » Maw 29 Ion 2008 4:48 pm

Diolch am alw i mewn i'r Seiat neithiwr Dai.
Braf gwrando ar Gymraeg Ceredigion.
Sut oeddat ti'n teimlo wrth sgwrsio a phedwar Gog o Orllewin Canada?
Wedi methu cael gafael ar y gerdd ddaru ti anfon. Weithiau mi fyddai'n cael dipyn o drafferth meistroli sgiliau sgaip
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Diolch am alw heibio Dai

Postiogan daievans » Sad 02 Chw 2008 12:39 am

Idris:

R'oedd yn bleser cael cwmni mor ddiwylliedig ar Nos Lun! Mae Cymraeg y Gogledd yn dderbynniol iawn i mi - mae gen i ryw hanner chwant byw yn y Gogledd, os wnai ddychwelyd - mae fy hoff gwrs golff acw, a nifer o'm ffrindiau ...

Dyma ddarn welais echdoe mewn llyfryn yn dangos gwestai Cymru

Mae gwin y gegin yn gan, a daw'r wlad
I'r wledd yma'n gyfan.
Alaw'r dwr, a'r haul ar dan -
Heno, mwynha dy hunan!

Mererid Hopwood
Rhithffurf defnyddiwr
daievans
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 31 Rhag 2002 5:25 am
Lleoliad: Califfornia, UDA

Re: Diolch am alw heibio Dai

Postiogan Lôn Groes » Sad 02 Chw 2008 8:17 pm

daievans a ddywedodd:Idris:

R'oedd yn bleser cael cwmni mor ddiwylliedig ar Nos Lun! Mae Cymraeg y Gogledd yn dderbynniol iawn i mi - mae gen i ryw hanner chwant byw yn y Gogledd, os wnai ddychwelyd - mae fy hoff gwrs golff acw, a nifer o'm ffrindiau ...

Dyma ddarn welais echdoe mewn llyfryn yn dangos gwestai Cymru

Mae gwin y gegin yn gan, a daw'r wlad
I'r wledd yma'n gyfan.
Alaw'r dwr, a'r haul ar dan -
Heno, mwynha dy hunan!

Mererid Hopwood


Hoff gwrs golff yn y Gogledd?
Dwi'n glustiau'i gyd.
Ond beth am Torrey Pines yn San Diego? 8)

Pan fyddo bywyd ar f'ysgwyddau'n faich
A'm dwrn yn cau yn erbyn tynged dyn,
Mi af i'r bryn i 'stwytho troed a braich,
Gan erlid y bêl wen o'r ti i'r grîn;
.............. (Golff: D Gweallt Jones)
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Diolch am alw heibio Dai

Postiogan daievans » Sad 02 Chw 2008 10:02 pm

Hoff gwrs golff yn y Gogledd?


Harlech - r'wyn aelod acw yn dwli ar y cwrs ....

Torrey Pines yn gwrs braf, ond ei fod e'n andros o anodd a braidd yn ddrud i chwarae, os nag wyt ti'n byw yn San Diego ... Mae'r syniad o dalu arian da i chwarae cwrs mor anodd yn un anodd i Gardi da i dderbyn!

dai
Rhithffurf defnyddiwr
daievans
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 31 Rhag 2002 5:25 am
Lleoliad: Califfornia, UDA


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron