Bobol bach mae hi'n oer

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bobol bach mae hi'n oer

Postiogan Lôn Groes » Iau 31 Ion 2008 1:22 am

Mae Canada yn draddodiadol o oer yn y gaea. Hwyrach dyna pam mae'r Americanwyr yn cyfeirio atom fel pobol y ' Great White North'. Ond er gwaetha'r oerni mae trigolion y wlad yn dal i gario ' mlaen gyda'u dyletswyddau pob dydd.
Mi dwi'n ffodus gan fy mod yn byw yn reit agos i Vancouver ac er ein bod yn cael dipyn o eira rwan ac yn y man, gwlaw ydi'r bwgan mwyaf fan yma yn y gaeaf, ac nid eira, oerni a rhew fel yn y gweddill o'r dalaith.
Mae'r tymheredd wedi disgyn yn ddifrifol yn nhalaith Saskatchewan, Alberta, Manitoba a gogledd British Columbia yn ddiweddar ac mae ffigwrau fel -40C yn digwydd yn reit aml.
Ond wrth edrych heddiw ar ragolygon y tywydd yma ac acw ar draws Canada, mi roeddwn i'n teimlo cydymdeimlad mawr tuag at bobol pentref bach Mayo yn yr Yukon. Dyma ei tywydd nhw wythnos yma:

http://www.mytelus.com/weather/land_sta ... o?code=YMA

Felly os ydi eich traed chi'n oer ym Methesda heno; cofiwch am bobol Mayo da chi :)
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Bobol bach mae hi'n oer

Postiogan Blewyn » Iau 31 Ion 2008 7:45 am

Mi sbariaf funud i feddwl amdanach pan fydd awr y G&T arnom nes ymlaen ar y verandah.... :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Bobol bach mae hi'n oer

Postiogan Lôn Groes » Maw 12 Chw 2008 7:29 pm

Blewyn a ddywedodd:Mi sbariaf funud i feddwl amdanach pan fydd awr y G&T arnom nes ymlaen ar y verandah.... :gwyrdd:


Yn dal yn boeth yn Muscat, Oman bid siwr. Beth 'di pris potel o Gin yn y wlad chwys doman ?
Mae'r gaeaf yn dal ei afael arnom yn British Columbia. Yr wythnos yma fe gauwyd un o briffyrdd y dalaith sef y Coquihalla Highway oherwydd llithriad eira. Bydd y ffordd ar gau am wythnos medda nhw gan fod 'na dunelli o eira yn barod i lithro i lawr y mynyddoedd hyd at y ffordd. Tywydd mulled wine ydi hi yma :)
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Bobol bach mae hi'n oer

Postiogan Positif80 » Maw 12 Chw 2008 7:46 pm

Dw i'n eithaf cenfigenus o'r rhai sydd yn byw mewn llefydd fel Canada. Mae Canada'n swnio fel wlad gwych, a mae'r tywydd oer yn apelio i mi rywsut. Falla fy mod i wedi bod yn wylio gormod o Due South.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron