Mae Canada yn draddodiadol o oer yn y gaea. Hwyrach dyna pam mae'r Americanwyr yn cyfeirio atom fel pobol y ' Great White North'. Ond er gwaetha'r oerni mae trigolion y wlad yn dal i gario ' mlaen gyda'u dyletswyddau pob dydd.
Mi dwi'n ffodus gan fy mod yn byw yn reit agos i Vancouver ac er ein bod yn cael dipyn o eira rwan ac yn y man, gwlaw ydi'r bwgan mwyaf fan yma yn y gaeaf, ac nid eira, oerni a rhew fel yn y gweddill o'r dalaith.
Mae'r tymheredd wedi disgyn yn ddifrifol yn nhalaith Saskatchewan, Alberta, Manitoba a gogledd British Columbia yn ddiweddar ac mae ffigwrau fel -40C yn digwydd yn reit aml.
Ond wrth edrych heddiw ar ragolygon y tywydd yma ac acw ar draws Canada, mi roeddwn i'n teimlo cydymdeimlad mawr tuag at bobol pentref bach Mayo yn yr Yukon. Dyma ei tywydd nhw wythnos yma:
http://www.mytelus.com/weather/land_sta ... o?code=YMA
Felly os ydi eich traed chi'n oer ym Methesda heno; cofiwch am bobol Mayo da chi