Cymedrolwr: Mali
Gowpi a ddywedodd:Beth am dreulio'r penwythnos yn Nhresaith, Bae Ceredigion...
Llety mewn dewis o 3 fflat neu Ganolfan i'r criw mwy!
Mawrth 1af - dydd Sadwrn
Ryland Teifi yn chwarae a Dewi Pws yn canu yn y pentref - AM DDIM!!
Hamper o gynnyrch Cymreig i'ch croesawi yn y llety mewn dathliad ar ddydd ein nawddsant.
Cilie - cysgu 5 - £110 am y penwythnos
Ty Llew - cysgu 4/6 - £110 am y penwythnos
Eluned - cysgu 2/3 - £85 am y penwythnos
Gofynnwn i o leiaf 10 aros yn y Ganolfan, dim ond £7 y pen, y nos - £14 y pen am benwythnos!!
Cysylltwch yn gyflym rhag cael eich siomi, drwy ddanfon neges brifat, neu ymwelwch a'n gwefan
http://www.tresaith.net
Manon a ddywedodd:'Dwi byth yn gwneud fawr i ddathlu, blaw fel arfer gwneud fritters caws a chennin a gwisgo'r bychan mewn crys rygbi Cymru. Ond 'leni mae gen i noson ieir i fynd iddo fo yng Nghernarfon, ac mi fyddai'n siwr o wisgo rhywbeth sleeveless er mwyn dangos fy nhattoo draig goch (yn y dull traddodiadol, wyddoch chi)
Emma Reese a ddywedodd:Mi na i godi'r Ddraig Goch wrth y drws blaen. Os fydd y tywydd yn dda, mi geisia i adael fy nghar efo baner lai ym maes parcio Wal-Mart. Ac dw i'n bwriadu paratoi cawl cennin a bara brith neu grempogau, ayyb. Fedra i ddim gwneud llawer achos bod gan neb ddiddordeb yng Nghymru heblaw fi fy hun yn yr ardal ma.
Gowpi a ddywedodd:Ty Llew - cysgu 4/6 - £110 am y penwythnos
dawncyfarwydd a ddywedodd:Steddfod Sir.
Ow, dwi'n Gymro da.
Mali a ddywedodd:Wel , dwi am fod yn hollol draddodiadol Manon , drwy wisgo 'waistcoat' tapestri Cymraeg brynias i'n ddiweddar ar ebay. Mae'n hollol retro ...un gwreiddiol o'r 70au .
Bargen am $19 / Deg punt ?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai