Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Mali » Llun 25 Chw 2008 11:36 pm

Dyma drio eto.... :winc:
Y penwythnos yma , mi fydd fy ngwr a finnau yn teithio i Vancouver i ddathlu Diwrnod Gwyl Ddewi efo ffrindiau yn y ddinas fawr. Yn Neuadd Cambrian fydd y swper a'r dathlu , ac mae disgwyl i tua 100 o Gymry i ymuno yn yr hwyl.
Be di'ch planiau chi?

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan 7ennyn » Llun 25 Chw 2008 11:45 pm

Dim byd mawr ar y gweill, dim ond pethau bychain. Ella wnai dritio fy hun i wydraid bach o ddwr, dwi heb benderfynu eto.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan sian » Llun 25 Chw 2008 11:50 pm

Gobeithio mynd i hwn.

Dw i ddim yn meddwl mod i erioed wedi neud dim byd arbennig i ddathlu Gwyl Ddewi - fel rheol fydda i'n anghofio cael daffodils/cennin i'r plant eu gwisgo i'r ysgol hyd yn oed - dda ei fod ar ddydd Sadwrn eleni!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 25 Chw 2008 11:59 pm

Cinio'r Gymdeithas nos fory yng Ngholeg St Ioan yng nghwmni Syr John Meurig Thomas a'r delynores ifanc dalentog Georgia Ruth Williams :)

Ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hyn bydd gwasanaeth Cymraeg/eig yng nghapel Coleg St Ioan gyda'r darlleniadau o Feibl gwreiddiol William Morgan (dechrau am 1830 os 'dach chi yn yr ardal!). Yn y nos mi fydda i'n dathlu 'mhen-blwydd yn 21ain - croeso i unrhyw un :winc: Dwi'n cael twmpath dawns yng Ngholeg y Brenin efo llwyth o'r teulu'n dod draw gobeithio. Edrych 'mlaen! 8)
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Mali » Maw 26 Chw 2008 4:50 pm

Gweithgareddau diddorol ac amrywiol acw Teg. 8) A phenblwydd hapus i ti ar y diwrnod mawr !
Fel arfer , mae 'na gôr yn canu yn Neuadd Cambrian ar Gwyl Ddewi , ond ddim eleni. Ond mae'r fwydlen yn swnio'n addawol iawn efo cawl cenin i gychwyn , wedyn cyw iâr, bîf , samwn, llysiau , gwahanol salads ayb.
Mwy o hanes Neuadd Cambrian yn Gymraeg , a'r croeso gafodd grŵp o Dde Cymru yno mis Hydref diwethaf yn papur bro Clebran.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Macsen » Maw 26 Chw 2008 5:28 pm

Dw i am newid fy enw'r gyfreithiol i Dewi Sant.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 26 Chw 2008 5:33 pm

Steddfod Sir.

Ow, dwi'n Gymro da.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Ray Diota » Maw 26 Chw 2008 5:40 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Cinio'r Gymdeithas nos fory yng Ngholeg St Ioan yng nghwmni Syr John Meurig Thomas a'r delynores ifanc dalentog Georgia Ruth Williams :)


joio! :?

Ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hyn bydd gwasanaeth Cymraeg/eig yng nghapel Coleg St Ioan gyda'r darlleniadau o Feibl gwreiddiol William Morgan (dechrau am 1830 os 'dach chi yn yr ardal!).


Pwyll bia'i!

Yn y nos mi fydda i'n dathlu 'mhen-blwydd yn 21ain - croeso i unrhyw un :winc: Dwi'n cael twmpath dawns yng Ngholeg y Brenin efo llwyth o'r teulu'n dod draw gobeithio. Edrych 'mlaen! 8)


No way bo ti'n 21 :o
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 27 Chw 2008 3:21 am

Ray Diota a ddywedodd:No way bo ti'n 21 :o


Ti'n swnio'n union fel dy fam cofia :!:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Planiau ar gyfer Dydd Gwyl Ddewi 2008

Postiogan Ray Diota » Mer 27 Chw 2008 11:22 am

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:No way bo ti'n 21 :o


Ti'n swnio'n union fel dy fam cofia :!:


:lol: whare teg

ma mam yn 60, ond fydde mwy o ffacin sbort yn mynd 'da hi i merched y wawr na treulio dwrnod dy benblwydd 'da ti... :winc:

pawb at y petha bo, sbo... :)
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron