Efallai y dyliwn i fod wedi edrych ar yr erthygl yma ddoe yn hytrach na heddiw.
Diolch i George Bush 'da ni 'di newid yr awr yn barod ....tair wythnos yn gynharach ! 'Spring Forward' ydi'r dywediad yma, i'n hatgoffa y dylem symud y clociau awr ymlaen . Fel arfer , wnês i ddim symud y clociau ymlaen cyn mynd i'r gwely, mi es i i'r gwely run amser , mi wnês i fethu codi mewn amser i fynd i'r eglwys, a'r unig gloc sydd ar amser yma ydi'r un ar fy ngliniadur !
Mi faswn i ddigon hapus tasa ddim rhaid newid yr awr o gwbwl.