Newid yr Awr a Cholli Cwsg.

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi newid yr awr yn niwsans ?

Ydi
10
77%
Na
3
23%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Newid yr Awr a Cholli Cwsg.

Postiogan Mali » Sul 09 Maw 2008 5:00 pm

Efallai y dyliwn i fod wedi edrych ar yr erthygl yma ddoe yn hytrach na heddiw.
Diolch i George Bush :P 'da ni 'di newid yr awr yn barod ....tair wythnos yn gynharach ! 'Spring Forward' ydi'r dywediad yma, i'n hatgoffa y dylem symud y clociau awr ymlaen . Fel arfer , wnês i ddim symud y clociau ymlaen cyn mynd i'r gwely, mi es i i'r gwely run amser , mi wnês i fethu codi mewn amser i fynd i'r eglwys, a'r unig gloc sydd ar amser yma ydi'r un ar fy ngliniadur !
Mi faswn i ddigon hapus tasa ddim rhaid newid yr awr o gwbwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Newid yr Awr a Cholli Cwsg.

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 10 Maw 2008 7:15 pm

A finnau. Does dim esgus am newid oriau bellach. Petasem ni'n dewis amser er mwyn plant mynd i'r ysgol a dod adre yn y goleuni yn ystod y gaeaf, basai'r amser 'na yn gwneud y tro yn ystod yr haf hefyd.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Newid yr Awr a Cholli Cwsg.

Postiogan Hazel » Llun 10 Maw 2008 9:03 pm

Mali a ddywedodd:Mi faswn i ddigon hapus tasa ddim rhaid newid yr awr o gwbwl.


Dw i'n cytuno â di, Mali. Mae'n twp. Amryw ddyddiad yn ôl, roedd erthygl yn New York Times am astudiaeth gan rhai gwyddonwyr am DST. Roedden nhw wedi dangos na fod ni'n cadw egni gan newid i DST o achos mae'n angen mwy goleuni trydan yn ogystal â mwy wres cynnar yn y bore (gwres yn mis Mawrth beth bynnag). Sgwn i faint oedd yr astudiaeth 'ma yn ei chostio. :rolio:

Fyddwn ni ddim yn newid yn ôl nes mis Tachwedd eleni! Yn fuan, na fyddwn ni'n newid yn ôl o gwbwl.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Newid yr Awr a Cholli Cwsg.

Postiogan Mali » Llun 10 Maw 2008 10:28 pm

Hazel a ddywedodd: Roedden nhw wedi dangos na fod ni'n cadw egni gan newid i DST o achos mae'n angen mwy goleuni trydan yn ogystal â mwy wres cynnar yn y bore (gwres yn mis Mawrth beth bynnag).


Digon gwir Hazel. Tydan ni ddim yn safio ar egni o gwbwl , a dyma'r brif reswm dros newid yr awr. :?
Gyda llaw, mae'n ddiddorol gweld ar Wikipedia cyn lleied o wledydd y byd sydd yn defnyddio DST.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Newid yr Awr a Cholli Cwsg.

Postiogan Mali » Sul 30 Maw 2008 2:05 am

Bwp i hwn ...nôl i -8 awr GMT ar ôl heno . :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron