Cylchgrawn Golwg yn dod atoch chi- www.golwg.com
Annwyl Gymru ar Wasgar,
Cysylltu i roi gwybod am ddatblygiad diweddaraf Golwg oeddwn i, sef lawnsio'r cylchgrawn fel fersiwn electronig!
Erbyn hyn, gallwch weld Golwg ar-sgrin yn unrhyw le ar draws y byd wrth fynd i www.golwg.com
Mae’r fersiwn newydd yn arbennig o ddeniadol i bobl sydd wedi symud o Gymru ac eisiau cadw mewn cysylltiad. Ac oherwydd ei fod yn arbed ar y post, mae tanysgrifiad i’r fersiwn ar y We hyd yn oed yn rhatach na’r fersiwn print!
Ewch i www.golwg.com i weld enghraifft o’r fersiwn ar-sgrin ynghŷd â phrynu’r rhifyn cyfredol.
Pob hwyl ar y darllen,
Golwg