Pasg Hapus i bawb .

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pasg Hapus i bawb .

Postiogan Mali » Gwe 21 Maw 2008 4:23 pm

Tebyg fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd efo traddodiadau a Gŵyl y Pasg. Felly sut fyddwch chi'n dathlu'r adeg arbennig yma o'r flwyddyn?
Tydi dathlu'r Pasg heb newid rhyw lawer i mi ers pan oeddwn yn blentyn , oni bai fy mod yn dathlu'r Wyl mewn gwlad wahanol. Fyddai'n mynd i'r eglwys ar Sul y Palmwydd a Dydd Sul y Pasg , cysylltu a ffrindiau , cael cinio /swper arbennig , a phrynu byns croes boeth a wyau Pasg , yn ogystal a chael blodau ar gyfer y ty. :)
Ond tu ôl i'r cyfan wrth gwrs mae ymwybyddiaeth o ddioddefaint ac atgyfodiad Iesu Grist.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Pasg Hapus i bawb .

Postiogan sian » Gwe 21 Maw 2008 5:43 pm

Pasg Hapus i Mali a phawb.
Gawson ni wasanaeth cymun arbennig iawn yn y capel y bore 'ma.
Y Parch Angharad Roberts yn rhoi myfyrdod ar y groes. Syml a theimladwy.
Mae gennym ni wasanaeth i bawb o bob oed, gyda phlant yr Ysgol Sul a rhai o bobl ifanc y pentre'n cymryd rhan bore Sul a bydd Angharad yn pregethu eto nos Sul.
Fuodd y gŵr a fi am dro rownd lan môr y prynhawn yma - glaw, cesair a thonnau mawr - ac fe alwon ni gyda ffrindiau ar y ffordd.
Ddim yn cofio am hot cross buns - dw i ddim yn meddwl mod i wedi gweld rhai eleni.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron