Tebyg fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd efo traddodiadau a Gŵyl y Pasg. Felly sut fyddwch chi'n dathlu'r adeg arbennig yma o'r flwyddyn?
Tydi dathlu'r Pasg heb newid rhyw lawer i mi ers pan oeddwn yn blentyn , oni bai fy mod yn dathlu'r Wyl mewn gwlad wahanol. Fyddai'n mynd i'r eglwys ar Sul y Palmwydd a Dydd Sul y Pasg , cysylltu a ffrindiau , cael cinio /swper arbennig , a phrynu byns croes boeth a wyau Pasg , yn ogystal a chael blodau ar gyfer y ty.
Ond tu ôl i'r cyfan wrth gwrs mae ymwybyddiaeth o ddioddefaint ac atgyfodiad Iesu Grist.