Mae 'na amryw o wahanol ffyrdd o gyfarch pobl , ac mae'n dibynu wrth gwrs os ydynt yn ffrindiau , teulu, neu ddieithriaid.
Cyn i mi ddod i fyw i Ganada, cyfarchion ddigon syml oeddwn i'n ddefnyddio ...rhywbeth debyg i helo sut wyt ti neu haia , wedyn cario mlaen efo'r sgwrs. Ond dyddia yma, fyddai'n mwy debygol o gofleidio a rhoi cusan i ffrindiau a theulu , yn enwedig os dwi heb eu gweld nhw ers peth amser. A dwi'n cofleidio rhai ffrindiau da pob tro dwi'n eu gweld nhw .
Be fyddwch chi'n wneud ?