Mae'n debyg fod yr Eisteddfod wedi cychwyn bellach , ond methu'n glir a chael hyd i ddim byd i'w wylio ar y we Dwi'n gwybod bod cystadeuaethau'r dydd mwy neu lai drosodd erbyn i mi godi , ond siawns fod 'na rywbeth ar gael ar ein cyfer?
Newydd edrych ar wefan y BBC , a'r cwbwl gês i oedd sgwâr bychan real audio , a'r cyfan sydd i'w weld yma pan gliciwch ar y linciau ydi ' Nid yw'r cynnwys hwn ar gael ar hyn o bryd' . Ar wefan S4C, fe welir y teitl ' Yn Fuan ar S4C ' , ond pa mor fuan ?