Dim Persawr Yma !

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dim Persawr Yma !

Postiogan Mali » Gwe 12 Medi 2008 4:09 pm

Dyma nodyn bach poleit o fwletin ein heglwys fore Sul diwethaf:

' Did you know : Many people are allergic to the chemicals found in many of our modern perfumes and colognes? Maybe Sunday morning is not the best time to wear either perfume or cologne.'

Sylwch fod y gair cologne yn cael ei ddefnyddio hefyd. :winc: Ond i fod o ddifri , mae hogla cryf fel hyn yn ddiflas iawn ben bore. Dwi ddim yn meddwl fod gen i alergedd iddo , ond mae o'n ddigon i wneud i mi deimlo'n reit sal. I'r gwasanaeth cyntaf fyddai'n mynd , a'r adeg hynny o'r bore , sgin i ddim mynadd potshan efo mêc yp heb sôn am bersawr!
A ddylia' rheol' fel hyn fod mewn bodolaeth mewn llefydd cyhoeddus eraill hefyd ? Mae o'n barod mewn ysgolion cynradd ac mewn rec centres ...
Neu ydio jyst yn fater i'r unigolyn fod yn gymhedrol efo'i ddefnydd o bersawr/cologne ? :x
Rhanwch eich profiadau/cwynion yma........
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dim Persawr Yma !

Postiogan Hazel » Gwe 12 Medi 2008 4:43 pm

Mali a ddywedodd:Dyma nodyn bach poleit o fwletin ein heglwys fore Sul diwethaf:

' Did you know : Many people are allergic to the chemicals found in many of our modern perfumes and colognes? Maybe Sunday morning is not the best time to wear either perfume or cologne.'


Rhaid i mi gytuno. Unrhyw dro Unrhywle. Dw i'n credu bod rhai pobl yn ymolchi ynddo. Ebwch! :ing:
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai