Dyma nodyn bach poleit o fwletin ein heglwys fore Sul diwethaf:
' Did you know : Many people are allergic to the chemicals found in many of our modern perfumes and colognes? Maybe Sunday morning is not the best time to wear either perfume or cologne.'
Sylwch fod y gair cologne yn cael ei ddefnyddio hefyd. Ond i fod o ddifri , mae hogla cryf fel hyn yn ddiflas iawn ben bore. Dwi ddim yn meddwl fod gen i alergedd iddo , ond mae o'n ddigon i wneud i mi deimlo'n reit sal. I'r gwasanaeth cyntaf fyddai'n mynd , a'r adeg hynny o'r bore , sgin i ddim mynadd potshan efo mêc yp heb sôn am bersawr!
A ddylia' rheol' fel hyn fod mewn bodolaeth mewn llefydd cyhoeddus eraill hefyd ? Mae o'n barod mewn ysgolion cynradd ac mewn rec centres ...
Neu ydio jyst yn fater i'r unigolyn fod yn gymhedrol efo'i ddefnydd o bersawr/cologne ?
Rhanwch eich profiadau/cwynion yma........