Dydd Gwyl Dewi Hapus

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Mali » Sul 01 Maw 2009 1:19 am

Dymuniadau gorau i bawb ar Ddydd Gwyl Dewi Sant !
Be di planiau pawb am y diwrnod tybed....unrhywbeth arbennig ? Ddim am drafeilio i unlle eleni , ond yn dymuno'n dda i'r Gymdeithas Gymraeg yn Vancouver a Victoria fydd yn dathlu'r diwrnod mewn noson arbennig heno. Yfory byddwn yn cael swper efo'n cymdogion , ac wrth gwrs, mae'r Ddraig Goch yn chwifio'n barod y tu allan i'n ty. :D
Pob hwyl i bawb !

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 01 Maw 2009 10:46 am

Yn mynd draw i gael Cawl i ginio gyda fy rhieni yng nghyfraith. Y ddraig goch yn chwifio o ffenestr y car. 8)

Dydd Gwyl Dewi Hapus i bawb!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Hazel » Sul 01 Maw 2009 11:37 am

Dydd Gwyl Dewi hapus i bawb. Heddiw, bydda i'n cael fy nghinio Cymraeg cyntaf ac yn clywed fy nghôr Cymraeg cyntaf byw. :)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Mali » Sul 01 Maw 2009 5:56 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yn mynd draw i gael Cawl i ginio gyda fy rhieni yng nghyfraith. Y ddraig goch yn chwifio o ffenestr y car. 8)

Dydd Gwyl Dewi Hapus i bawb!


'Roedd raid i ni ddod a'r Ddraig Goch i mewn i'r ty yn gynharach gan i bod hi'n bwrw gymaint. :(
Cawl cenin i ninnau amser cinio hefyd ...a dwi am drio risaet Dudley. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Mali » Sul 01 Maw 2009 5:59 pm

Hazel a ddywedodd:Dydd Gwyl Dewi hapus i bawb. Heddiw, bydda i'n cael fy nghinio Cymraeg cyntaf ac yn clywed fy nghôr Cymraeg cyntaf byw. :)


Da iawn ti Hazel ...falch o glywed. :D
Mwynha dy ddiwrnod !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Emma Reese » Sul 01 Maw 2009 8:26 pm

Dydd Gwyl Dewi Hapus o Oklahoma! Mi es i i Wal-Mart efo'r plant i dynnu llun.
http://emmareese.blogspot.com/2009/03/d ... hapus.html
Roedd y gwynt yn fain ac roedd yn ofnadwy o oer. Gyrres i'n ôl o'r eglwys efo'r Ddraig Goch yn chwifio o'r car drwy'r dre. Yn anffodus, doedd 'na ddim llawer o bobl. Mae'r faner wrth y drws blaen bellach. Dw i'n coginio cawl cennin a bara brith i swper.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Mali » Sul 01 Maw 2009 10:02 pm

Ardderchog ! :D
Llun da iawn ohonoch, ac o'r Ddraig Goch. 8) Newydd gael ein cawl cennin i ginio , ac 'roedd yn dda iawn . 'Roedd defnyddio celeri yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac yn ychwanegu blas arbennig at y cawl.
Ac mae digon ar ôl ar gyfer yfory...... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dydd Gwyl Dewi Hapus

Postiogan Hazel » Sul 01 Maw 2009 10:48 pm

Heddiw, dw i'n cwrdd â dynes sy'n coginio cawl cennin efo maip yn lle tatws. Llawer o ryseitiau o wneud cawl cennin?

Mae'r gwynt yn gryf ac oer yma hefyd ond mae'r haul yn disgleirio, diolch byth.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron