Dymuniadau gorau i bawb ar Ddydd Gwyl Dewi Sant !
Be di planiau pawb am y diwrnod tybed....unrhywbeth arbennig ? Ddim am drafeilio i unlle eleni , ond yn dymuno'n dda i'r Gymdeithas Gymraeg yn Vancouver a Victoria fydd yn dathlu'r diwrnod mewn noson arbennig heno. Yfory byddwn yn cael swper efo'n cymdogion , ac wrth gwrs, mae'r Ddraig Goch yn chwifio'n barod y tu allan i'n ty.
Pob hwyl i bawb !