Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan Mali » Maw 14 Gor 2009 4:06 am

Sgin rhywun y geiriau i Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl ogydd ? Neu efallai linc i gôr / unigolyn sy'n ei chanu.
Diolch ... 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 14 Gor 2009 7:42 am

Unwaith eto 'Nghymru annwyl
'Rwyf am dro ar dir fy ngwlad.
Llawen gwrdd a hen gyfeillion
Sydd yn rhoddi mawr fwynhad.
Rhai ymffrostiant mewn prydferthwch
Gwledydd pell mewn swynol gan,
Ond i mi 'does dan yr heulwen
Gwlad mor bur a Gwalia lan.

CYTGAN:
Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud.
O holl wledydd y ddaear
Dyma'r orau yn y byd.

Gwlad y bryniau ydyw Gwalia;
Gwlad y deryn, gwlad y bardd;
Gwlad y canu, gwlad y moli;
Gwalia sydd yn swynol hardd.
O, rwy'n hoffi i rodio'r llwybrau
Fum yn chwarae yn ddi-nam.
Atgyfodant rhyw atgofion ynwyf am fy annwyl fam.

:D
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan Mali » Maw 14 Gor 2009 3:38 pm

Llawer o ddiolch i ti . :D Fydd gen i ddim esgis rwan i deimlo'n :wps: mod i ddim yn gwybod y geiriau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan sian » Maw 14 Gor 2009 3:57 pm

Dw i'n meddwl bod nhw ar y sgrîn beth bynnag!

Fictoraidd iawn on'd odyn nhw?

Ti'n dod draw i'r Steddfod?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan Mali » Maw 14 Gor 2009 5:05 pm

sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl bod nhw ar y sgrîn beth bynnag!

Fictoraidd iawn on'd odyn nhw?

Ti'n dod draw i'r Steddfod?


Helo Sian,
Ah gwell fyth ! Dwi ddim yn meddwl fod 'na sgrin y tro diwethaf i mi fod yn y steddfod . :wps:
Ydy, mae'r geiriau yn reit Fictoraidd , yn ddigon trist a sentimental . :crio: Ein planiau ydi mynd i'r steddfod ar y dydd Sadwrn cyntaf ac ar y dydd Mercher. A fyddi di yno ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan Lorn » Maw 14 Gor 2009 8:59 pm

Oeddwn i wastad yn licio fersiwn Sobin a'r Smeiliaid o hwnnw. Ar yr albym Caib os dwi'n cofio'n iawn? Neu'r un cyn hwnnw?
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Geiriau Unwaith Eto yng Nghymru Annwyl

Postiogan Mali » Sul 16 Awst 2009 2:57 am

Wel, dyna hen dro ....gefais i ddim cyfle i'w chanu hi . :( Tydio ddim yn rhan o 'seremoni' croesawu'r ymwelwyr o dramor rwan :?
Eniwe, mi gawsom amser da yn y 'steddfod ddydd Mercher , yn y te bach ar ein cyfer , ac yn y pafiliwn . :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron