Tudalen 1 o 2

Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Sul 23 Awst 2009 3:05 am
gan Lôn Groes
Bum yn Eisteddfod y Bala eleni.
Do wir yr holl ffordd o Ynys Vancouver.
Dydd Mercher oedd hi; diwrnod Croeso'r Cymry Alltud ac mi roedd hi'n ddiwrnod hynod o braf.
Ond Ymwelydd o Dramor ydw i bellach.
Diolch am y te bach a'r siawns i gwrdd a Chymry o bob rhan o'r byd.
Cefais sêt ffrynt yn y Pafiliwn mawr a chroeso adref gan yr Archdderwydd ei hun.
Ond chlywais i ddim fy hoff gân: 'Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl."
Go brin y caf ei chlywed byth eto yn yr Eisteddfod.
Hen dro ynte.
Mae pethau yn newid; ac weithiau mae newid yn brifo rhywun.
Dwi'n methu'n glir a chael hyd i'r gân ar y rhyngrwyd.
Oes 'na rhywun a fedr fy helpu os gwelwch yn dda?
Dwi'n ddigon isel fy mhen yn Nyffryn Comox y dyddiau yma :(

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Sul 23 Awst 2009 10:53 am
gan Hazel

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Sul 23 Awst 2009 9:20 pm
gan sian
Lôn Groes a ddywedodd:Ond chlywais i ddim fy hoff gân: 'Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl."
Go brin y caf ei chlywed byth eto yn yr Eisteddfod.
Hen dro ynte.
Mae pethau yn newid; ac weithiau mae newid yn brifo rhywun.


Efallai y byswn i'n teimlo run peth â ti tyswn i wedi symud i ben draw'r byd ac yn dod nôl i Gymru ar gyfer y Steddfod ond, yn fy marn i, roedd yn hen bryd cael gwared â'r sentimentaleiddiwch Fictorianaidd a chael rhywbeth ffres a deinamig yn ei le.
Welais i mo'r seremoni eleni, felly alla i ddim dweud a lwyddwyd i wneud hynny.

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Sul 23 Awst 2009 10:38 pm
gan Lôn Groes
Hazel a ddywedodd:http://www.youtube.com/watch?v=KEpp8g1gTus

http://www.youtube.com/watch?v=oxqr-rN1gag

Ydy hon?


Diolch Hazel. Dwi'n gyfarwydd a'r ddwy yma ond fe roeddwn i'n gobeithio cael clywed y gân yma yn cael ei chanu gan gôr meibion neu y gynulleidfa yn y Steddfod hwyrach. Diolch eto Hazel :(

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Sul 23 Awst 2009 11:00 pm
gan Hazel
Mae'n ddrwg gen i. Nid allaf i ei chyflwyno hi fyw. Dim ond ar y rhyngrwyd neu grynoddisg (Côr Meibion). :ing:

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Llun 24 Awst 2009 4:24 pm
gan Lôn Groes
Hazel a ddywedodd:Mae'n ddrwg gen i. Nid allaf i ei chyflwyno hi fyw. Dim ond ar y rhyngrwyd neu grynoddisg (Côr Meibion). :ing:


Bore da Hazel.
Diolch am garedigrwydd ffrindiau o gyffiniau Pwllheli; neithiwr fe dderbyniais gopi dros y we o Gôr Meibion Treorci yn canu 'Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl'.
Do mi wnes i sawru pob diferyn o'r gân. A diolch i Gwenda a'r teulu am sylweddoli bod sentiment tuag at Gymru a phethau Cymraeg yn dal yn bwysig o hyd i rai ohonom ni sy'n byw dramor :)

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Llun 24 Awst 2009 5:47 pm
gan Hazel
O, da iawn! Diolch i Dduw am gyfeillion! Dw i'n falch i chi. Yn llwyr! Mae cofion yn rhyfeddol a, ar adegau, mor gysurlon. Maen' nhw'n anghenraid o fywyd. Fe all 'na fod teimlad tuag Gymru a pethau Cymraeg heb falio am ble ydych chi'n byw. Da bod chi'n gallu'w trysori nhw.

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 2:35 am
gan Lôn Groes
sian a ddywedodd:
Lôn Groes a ddywedodd:Ond chlywais i ddim fy hoff gân: 'Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl."
Go brin y caf ei chlywed byth eto yn yr Eisteddfod.
Hen dro ynte.
Mae pethau yn newid; ac weithiau mae newid yn brifo rhywun.


Efallai y byswn i'n teimlo run peth â ti tyswn i wedi symud i ben draw'r byd ac yn dod nôl i Gymru ar gyfer y Steddfod ond, yn fy marn i, roedd yn hen bryd cael gwared â'r sentimentaleiddiwch Fictorianaidd a chael rhywbeth ffres a deinamig yn ei le.
Welais i mo'r seremoni eleni, felly alla i ddim dweud a lwyddwyd i wneud hynny.


Yn fy marn i:
Wel Sian o Trefor, amlwg i mi nad wyt ti yn amgyffred teimladau Cymry o ben draw'r byd tuag at eu gwlad.
A beth sy'n achosi penbleth i mi ydi pam ddefnyddio rhywbeth hollol estron a Saesnig fel 'sentimentaleiddiwch Victorianaidd' fel llinyn mesur i werthfawrogi neu ddilorni gwerth seremoni Croeso'r Cymry Alltud yn yr Eisteddfod.
Onid rhywbeth cynhenid Gymraeg ydi'r seremoni?
Do fe fwynheais seremoni y Fedal Ryddiaeth ond fedrwn i ddim dweyd bod yr ychydig funudau a dreuliwyd yn ymestyn croeso i'r Cymry Alltud y tro hwn yn ddeinamig na ffres chwaith. A hyn i gyd gan un a dreuliodd amser yn y pafiliwn ar ddiwrnod Croeso'r Ymwelwyr o Dramor.

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 8:26 am
gan sian
Lôn Groes a ddywedodd:Yn fy marn i:
Wel Sian o Trefor, amlwg i mi nad wyt ti yn amgyffred teimladau Cymry o ben draw'r byd tuag at eu gwlad.


Wel, nadw, yn amlwg - dwi erioed wedi bod yn byw ym mhen draw'r byd - ac fe ddywedais i uchod efallai y byddwn i'n teimlo'n wahanol pe bawn i.

Meddwl oeddwn i efallai y byddai'n well gan Gymry sydd wedi symud i ffwrdd fod yn rhan o seremoni i wobrwyo awdur ifanc cyffrous na chanu rhyw eiriau hen ffasiwn fel:
"Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud;
O holl wledydd y ddaear,
Hon yw'r orau yn y byd"

Wnes i ddim dilorni gwerth croesawu'r Cymry o dramor. Mae honno'n ddadl arall :D
[/quote]

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 12:37 pm
gan Hazel
Hen ffasiwn? O'r annwyl! Byddai'n rhaid i ni golli y gorffennol? :(

Mae'n dda i'r enaid i edrych yn ôl ar adegau. Mae'n dda i'r enaid gael rhywbeth sy'n dda i edrych yn ôl arno. Mae atgofion - atgofion da - yn bendith nid bod yn cael eu dirmygu nhw.

Cymerwch amser i synfyfyri. "Cyfrifwch Eich Bendithion Un Ac Un" :winc:

Hen ffasiwn? Waaaahhhhhh! :ing: :ing: