[/quote]sian a ddywedodd:Lôn Groes a ddywedodd:Yn fy marn i:
Wel Sian o Trefor, amlwg i mi nad wyt ti yn amgyffred teimladau Cymry o ben draw'r byd tuag at eu gwlad.
Wel, nadw, yn amlwg - dwi erioed wedi bod yn byw ym mhen draw'r byd - ac fe ddywedais i uchod efallai y byddwn i'n teimlo'n wahanol pe bawn i.
Meddwl oeddwn i efallai y byddai'n well gan Gymry sydd wedi symud i ffwrdd fod yn rhan o seremoni i wobrwyo awdur ifanc cyffrous na chanu rhyw eiriau hen ffasiwn fel:
"Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud;
O holl wledydd y ddaear,
Hon yw'r orau yn y byd"
Wnes i ddim dilorni gwerth croesawu'r Cymry o dramor. Mae honno'n ddadl arall
Helo Sian o Drefor,
Dwi'n siwr y buasai miloedd o Gymry sydd wedi symud i ffwrdd wedi mwynhau Seremoni y Fedal Ryddiaith fel y gwnes i.
Ond fe roeddwn yn siomedig dros ben na chawsom yr hen Seremoni Croesawu'r Cymry Alltud yn ogystal.
Dyma ichi eiriau hen ffashiwn arall i ddirdynnu bronau'r Cymry alltud.
Gyda llaw nid ' ymwelydd ' o dramor ydw i. Nac rhyw fath o ' visitor ' i faes yr Eisteddfod chwaith.
Cymro ydw i o ardal Bethesda. Yn Nyffryn Ogwen ces i fy ngeni ac yma y magwyd i am ddeg mlynedd ar hugain.
Pan fyddai'n glanio ym Manceinion a hwythau'n gofyn imi : "What is the purpose of your visit?"
Mi fyddai'n ateb gyda balchder: " I'm coming home to the land of my birth. I'm not a visitor as such. I was born here."
Ta waeth yn ôl at y geiriau hen ffashiwn arall 'na:
...............
Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,
Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaethau ar hyd y lle.
Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;
Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
Na does gen i ddim cywilydd cafaddef fy mod innau hefyd wedi teimlo'r teimladau hyn ac wedi crio lawer gwaith am y pethau a fu ac nis gellir eu newid bellach.