Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan Lôn Groes » Iau 03 Medi 2009 4:32 am

sian a ddywedodd:
Lôn Groes a ddywedodd:Yn fy marn i:
Wel Sian o Trefor, amlwg i mi nad wyt ti yn amgyffred teimladau Cymry o ben draw'r byd tuag at eu gwlad.


Wel, nadw, yn amlwg - dwi erioed wedi bod yn byw ym mhen draw'r byd - ac fe ddywedais i uchod efallai y byddwn i'n teimlo'n wahanol pe bawn i.

Meddwl oeddwn i efallai y byddai'n well gan Gymry sydd wedi symud i ffwrdd fod yn rhan o seremoni i wobrwyo awdur ifanc cyffrous na chanu rhyw eiriau hen ffasiwn fel:
"Magwyd fi ar ei bron,
Ces fy siglo yn ei chrud;
O holl wledydd y ddaear,
Hon yw'r orau yn y byd"

Wnes i ddim dilorni gwerth croesawu'r Cymry o dramor. Mae honno'n ddadl arall :D
[/quote]

Helo Sian o Drefor,
Dwi'n siwr y buasai miloedd o Gymry sydd wedi symud i ffwrdd wedi mwynhau Seremoni y Fedal Ryddiaith fel y gwnes i.
Ond fe roeddwn yn siomedig dros ben na chawsom yr hen Seremoni Croesawu'r Cymry Alltud yn ogystal.
Dyma ichi eiriau hen ffashiwn arall i ddirdynnu bronau'r Cymry alltud.
Gyda llaw nid ' ymwelydd ' o dramor ydw i. Nac rhyw fath o ' visitor ' i faes yr Eisteddfod chwaith.
Cymro ydw i o ardal Bethesda. Yn Nyffryn Ogwen ces i fy ngeni ac yma y magwyd i am ddeg mlynedd ar hugain.
Pan fyddai'n glanio ym Manceinion a hwythau'n gofyn imi : "What is the purpose of your visit?"
Mi fyddai'n ateb gyda balchder: " I'm coming home to the land of my birth. I'm not a visitor as such. I was born here."
Ta waeth yn ôl at y geiriau hen ffashiwn arall 'na:
...............

Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,

Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaethau ar hyd y lle.

Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;

Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.

Na does gen i ddim cywilydd cafaddef fy mod innau hefyd wedi teimlo'r teimladau hyn ac wedi crio lawer gwaith am y pethau a fu ac nis gellir eu newid bellach. :crio:
Golygwyd diwethaf gan Lôn Groes ar Iau 03 Medi 2009 6:15 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan Muralitharan » Iau 03 Medi 2009 4:57 pm

Pam y dylai'r Cymry tramor gael croeso arbennig yn y lle cynta? Beth sydd mor arbennig amdanyn nhw sy'n golygu eu bod yn cael meddiannu llwyfan ein Prifwyl ar gyfer ryw sbloets sentimental gwirion? Pam y nhw yn hytrach na'r bobl sydd wedi treulio eu hoes yn Nyffryn Nantlle, Dyffryn Ceiriog neu Ddyffryn Aman yn gweithio'n galed i gynnal eu cymunedau - a hynny, yn amlach na pheidio, wedi golygu aberth economaidd iddyn nhw?

Os ydi'r bobl yma yn teimlo cymaint o hiraeth, wel. mae'r ateb yn syml...

Ac ella y bydda i yno wedyn i ysgwyd llaw â chi.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan Lôn Groes » Iau 03 Medi 2009 6:38 pm

Muralitharan a ddywedodd:Pam y dylai'r Cymry tramor gael croeso arbennig yn y lle cynta? Beth sydd mor arbennig amdanyn nhw sy'n golygu eu bod yn cael meddiannu llwyfan ein Prifwyl ar gyfer ryw sbloets sentimental gwirion? Pam y nhw yn hytrach na'r bobl sydd wedi treulio eu hoes yn Nyffryn Nantlle, Dyffryn Ceiriog neu Ddyffryn Aman yn gweithio'n galed i gynnal eu cymunedau - a hynny, yn amlach na pheidio, wedi golygu aberth economaidd iddyn nhw?

Os ydi'r bobl yma yn teimlo cymaint o hiraeth, wel. mae'r ateb yn syml...

Ac ella y bydda i yno wedyn i ysgwyd llaw â chi.




Tydi awr o groeso ar lwyfan y Steddfod ddim yn gofyn rhyw lawer.
A dwi'n siwr bod 'na filoedd o Gymry na fuasai'n edliw hyn i ni.
Ond wedi dweyd hynny dwi'n deall dy agwedd di i'r dim ac yn drist braidd dy fod ti mor grintachlyd.
Ond cofia os wyt ti yn y cyffiniau 'ma cofia alw i mewn am baned ac mae 'na groeso Cymraeg iti :D
Golygwyd diwethaf gan Lôn Groes ar Iau 03 Medi 2009 9:44 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan Duw » Iau 03 Medi 2009 8:35 pm

Wel, dwi wastad yn hapus i weld Cymry'n dychwelyd. Hoffwn feddwl bod croeso cynnes yma i'n llysgenhadon o wledydd estron.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan Emma Reese » Llun 07 Medi 2009 4:57 am

Mae'n ddrwg gen i, Lôn. Dôn i ddim yn sylweddoli fod ti'n cael cymaint o siom ddiwrnod hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan sian » Llun 07 Medi 2009 7:33 am

Dyma dipyn o hanes y newid.

Lôn Groes - Swn i'n dadlau bod gwahaniaeth rhwng "hen" a "hen ffasiwn" a gwahaniaeth hefyd rhwng barddoniaeth a thalp o sentimentaleiddiwch. :lol:

Rhyw feddwl ydw i bod y rhan fwyaf o Gymry sy'n byw dramor yn byw bywydau sydd o leiaf mor gyffrous a modern ag yr ydyn ni'n eu mwynhau yng Nghymru ond eu bod nhw'n disgwyl i ni fwynhau seremoni sy'n diferu o sentiment ar eu cyfer.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl!

Postiogan Hazel » Llun 07 Medi 2009 12:06 pm

Yr Eisteddfod. Aduniad teulu ydy hi. Teulu. Aduno. Cyfrannol a Chyfuniad. Hen a Newydd. Cofion a Gobeithion. Breuddwydion o'r dyfodol a Breuddwydion am bethau a fu. . Dyna fywyd efo llawenydd. Sentimentaleiddiwch, ie. Beth sydd o'i le ar sentimentaleiddiwch? Caredigrwydd. Gofalgar. Teimlad. Sensitifrwydd. Teulu! Mwynhewch a diolch i Dduw am deulu! Peidiwch ei dinistrio hi, os gwelwch yn dda.

Mae fy mocs sebon yn mynd yn llithrig. Mae'n ddrwg gen i. Ond dw i'n credu beth ydw i'n dweud. Nid yw teulu dim ond "newydd". Mae cofion yn werth eu arbed nhw.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Nôl

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron