Amhosib prynu llyfrau Cymraeg gyda PayPal

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Amhosib prynu llyfrau Cymraeg gyda PayPal

Postiogan Dafydd ab Iago » Gwe 28 Awst 2009 11:26 am

Ydy rhywun yn defnyddio PayPal i brynu llyfrau Cymraeg?

Dwi eisiau prynu Teulu Lord Bach ond dydy Gwasg Gomer ddim yn derbyn PayPal. Does dim cerdyn credyd 'da fi a dwi'n byw yng Ngwlad Belg (felly, bydd rhaid talu EUR20 i drosglwyddo'r arian o Wlad Belg i gyfrif banc ym Mhrydain).

Nes i drio hefyd ar wefan Gwales.com ond dydyn nhw'n ddim yn defnyddio PayPal oherwydd nad ydy PayPal yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.

Dwi wedi edrych ar Waterstones, Amazon.co.uk ayyb ond dydyn nhw ddim yn derby PayPal chwaith.

Ddoe llwyddais i brynu Llyfrgell gan Fflur Dafydd fel e-lyfr trwy PayPal.

Dafydd
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Re: Amhosib prynu llyfrau Cymraeg gyda PayPal

Postiogan Hazel » Gwe 28 Awst 2009 11:55 am

Dydw i ddim yn defnyddio Pay Pal chwaith ond mae 'na stori arall. Dw i'n falch na fod Gwales yn defnyddio Pay Pal os nac ydyn.

Mae'n ddrwg gen i. Dydw i ddim yn gwybod eich ateb. :ing:
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Amhosib prynu llyfrau Cymraeg gyda PayPal

Postiogan Mali » Gwe 28 Awst 2009 9:07 pm

Hazel, paid ac ypsetio gormod rwan :winc:

Dafydd, ti'n codi cwestiwn diddorol yma. Dwi rioed wedi prynu llyfrau Cymraeg drwy Gwales, Amazon ayb ...mi fyddai'n safio mhrês a'u prynu pan fyddaf yn mynd adref . :winc: Ond mi ddylia'r gwasanaeth fod ar gael gan ei fod yn saff iawn [ gobeithio !] Mi fyddai'n defnyddio Pay Pal ar eBay ac yn ei weld yn rhwydd iawn .
Mae'n debyg fod 'na reswm dros y 'gwaharddiad' gan Gwales, Amazon ayb , ond wn i ddim be 'dio. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Amhosib prynu llyfrau Cymraeg gyda PayPal

Postiogan Hazel » Gwe 28 Awst 2009 10:25 pm

Mae'n ddrwg gen i. Bydda' i'n ymlysgo'n ôl i mewn i fy nhwll. :wps:
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Amhosib prynu llyfrau Cymraeg gyda PayPal

Postiogan Mali » Sad 29 Awst 2009 3:40 am

Hazel a ddywedodd:Mae'n ddrwg gen i. Bydda' i'n ymlysgo'n ôl i mewn i fy nhwll. :wps:


Na , paid a gwneud hynny Hazel. Da ni dy angen di yma ar maes-e ! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron