Ydy rhywun yn defnyddio PayPal i brynu llyfrau Cymraeg?
Dwi eisiau prynu Teulu Lord Bach ond dydy Gwasg Gomer ddim yn derbyn PayPal. Does dim cerdyn credyd 'da fi a dwi'n byw yng Ngwlad Belg (felly, bydd rhaid talu EUR20 i drosglwyddo'r arian o Wlad Belg i gyfrif banc ym Mhrydain).
Nes i drio hefyd ar wefan Gwales.com ond dydyn nhw'n ddim yn defnyddio PayPal oherwydd nad ydy PayPal yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.
Dwi wedi edrych ar Waterstones, Amazon.co.uk ayyb ond dydyn nhw ddim yn derby PayPal chwaith.
Ddoe llwyddais i brynu Llyfrgell gan Fflur Dafydd fel e-lyfr trwy PayPal.
Dafydd