Oes 'na safle ar gael i brynu cardiau Cymraeg ar y we ogydd? Fedrai ddim mynd i'r siop Gymraeg agosaf i brynu un , ac mi fasa'n braf cael gyrru cardiau cyfarchion Cymraeg i deulu a chyfeillion adref.
Diolch Sian. Mi gefais i fwy o lwc wrth edrych drwy'r cardiau ar yr ail safle gan eu bod yn caniatau i mi weld fersiwn mwy o'r cerdyn. Mae'r prisiau'n reit dda hefyd gan fod cardiau yn medru costio rhwng $5 a $6 yma.